Stori newyddion

Galwad ar arbenigwyr diwydiant i ymuno â grwpiau cynghori allweddol PecynUK

Mae PecynUK yn gwahodd arbenigwyr o'r diwydiant i ymuno â grwpiau ymgynghorol allweddol.

Mae PecynUK, y gweinyddwr sydd newydd ei benodi ar gyfer y cynllun pEPR, wedi ymrwymo i weithio gydag arbenigwyr o bob rhan o’r gadwyn werth pecynwaith i’w arwain yn ei waith.

Bydd y berthynas waith agos yma yn cael ei chefnogi gan gyngor arbenigol gan y pedwar bwrdd cynghori canlynol:

  • Grŵp Llywio Gweinyddwr y Cynllun
  • Pwyllgor Cynghori Technegol Methodolegau Asesu Ailgylchadwyedd
  • Pwyllgor Cynghori Technegol Effeithiolrwydd ac Effeithlonrwydd
  • Grŵp Cynghori ar Gyfathrebu a Newid Ymddygiad

Bydd argymhellion y grwpiau yma yn chwarae rhan ganolog i arwain PecynUK wrth iddo dyfu a datblygu.

Bydd y pedwar grŵp cynghori gwirfoddol yma yn rhoi cyngor arbenigol ac argymhellion i dîm arweinwyr PecynUK. Fydd y grwpiau ddim yn gwneud penderfyniadau, ond yn ffynhonnell gwybodaeth a phrofiad dibynadwy sy’n cynnwys aelodau a fydd â thoreth o arbenigedd gweithredol ac arbenigedd polisi o amrywiaeth o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Datganiad o ddiddordeb i ymuno â Phwyllgorau Cynghori PecynUK nawr yn agored

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod bellach yn croesawu Datganiadau o Ddiddordeb i ymuno â’r tri grŵp cynghori canlynol:

  • Pwyllgor Cynghori Technegol Methodolegau Asesu Ailgylchadwyedd
  • Pwyllgor Cynghori Technegol Effeithiolrwydd ac Effeithlonrwydd
  • Grŵp Cynghori ar Gyfathrebu a Newid Ymddygiad

Bydd pymtheg swydd ar gael ar bob un o’r grwpiau cynghori hyn, yn amodol ar broses ymgeisio gystadleuol deg ac agored.

Bydd ceisiadau yn cau ar 10 Mawrth 2025. Bydd profiad amlwg yn y sector yn hanfodol. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael isod.

Manylion pellach ar bob grŵp cynghori

Pwyllgor Cynghori Technegol Methodolegau Asesu Ailgylchu (RAM TAC)

Bydd y RAM TAC yn darparu cyngor technegol ar gynaliadwyedd pecynwaith gan helpu PecynUK i ddarparu fersiynau olynol o’r RAM a fydd yn adlewyrchu ailgylchadwyedd ac yn ystyried gwahanol seiliau asesu. Byddan nhw’n sicrhau bod y cyngor y mae Gweinyddwr y Cynllun yn ei gael ynghylch ailgylchadwyedd pecynwaith a nodweddion amgylcheddol eraill yn gyfredol ac yn adlewyrchu tueddiadau ac arloesiadau.

Bydd RAM TAC Gweinyddwr y Cynllun hefyd yn asesu ymholiadau technegol dethol a materion sy’n ymwneud â deunyddiau pecynwaith ac yn cynghori Gweinyddwr y Cynllun ar ganlyniad eu hasesiad technegol.

Bydd y RAM TAC yn cyfarfod bob chwarter.

Y Pwyllgor Cynghori Technegol Effeithlon ac Effeithiol (E&E TAC)

Bydd yr E&E TAC yn bwyllgor technegol annibynnol sy’n deall arferion gorau awdurdodau lleol a rheoli gwastraff o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a thrwy ddefnyddio’u harbenigedd byddan nhw’n gwneud argymhellion i PecynUK ar sut i gefnogi Awdurdodau Lleol sy’n gweithredu mewn ystod o wahanol sefyllfaoedd.

Bydd y pwyllgor yn darparu cyngor, arweiniad ac argymhellion arbenigol ar sail tystiolaeth dda i Bwyllgor Gwaith Gweinyddwr y Cynllun (SA ExCo), ond nid yw’n gorff sy’n gwneud penderfyniadau.

Bydd yr E&E TAC yn cyfarfod bob chwarter.

Y Grŵp Cynghori ar Gyfathrebu a Newid Ymddygiad (CBCAG)

Bydd y CBCAG yn dwyn ynghyd arbenigedd y gadwyn werth, cynrychiolaeth o’r pedair gwlad a gwybodaeth am newid ymddygiad er mwyn llywio a darparu cyngor arbenigol i Bwyllgor Gweithredol PecynUK ar strategaethau effeithiol ar gyfer cyfathrebu a newid ymddygiad.

Bydd y CBCAG yn cyfarfod bob chwarter.

Byddwn yn rhannu cyfleoedd i ymuno â’r SASG yn ddiweddarach yng ngwanwyn 2025.

Sut i wneud cais

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y pecynnau ymgeisio yma:

I wneud cais am unrhyw un o’r swyddi gwirfoddol hyn, dylid dychwelyd eich CV a’ch datganiad ategol i PackUK.governance@defra.gov.uk erbyn canol dydd ar 10 Mawrth 2025, gan nodi pa grŵp cynghori yr hoffech ymuno ag ef yn y maes pwnc.

Mae hefyd yn ofynnol i bob ymgeisydd gyflwyno’r canlynol:

  • Ffurflen Gwybodaeth Amrywiaeth a Gwrthdaro Buddiannau
  • CV heb fod yn fwy na dwy ochr o A4 yn amlinellu, cymwysterau proffesiynol a hanes cyflogaeth
  • Datganiad ategol sy’n dangos sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol, gan roi enghreifftiau penodol (uchafswm o 500 gair).

Anfonwch unrhyw ymholiadau at packuk.governance@defra.gov.uk.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Chwefror 2025