Lansio’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn allweddol ar gyfer Twf Economaidd a Theithiau Ynni Glân
Lansiwyd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn swyddogol sy’n golygu ein bod gam yn nes at fuddsoddiad mewnol sylweddol yn ne-orllewin Cymru a miloedd o swyddi newydd.

Welsh Secretary Jo Stevens on a visit to ABP in Port Talbot
-
Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd, wedi’i leoli yn Aberdaugleddau a Phort Talbot, yn helpu i sbarduno cenhadaeth twf economaidd Llywodraeth y DU
-
Mae’r Ffermydd Gwynt Arnofiol ar y Môr Celtaidd yn hanfodol at ymdrech Prydain i fod yn archbŵer mewn ynni glân erbyn 2030
-
Bydd y cynlluniau’n creu dros 11,000 o swyddi newydd ac yn ychwanegu dros £8 biliwn mewn gwerth economaidd i’r rhanbarth.
Lansiwyd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn swyddogol sy’n golygu ein bod gam yn nes at fuddsoddiad mewnol sylweddol yn ne-orllewin Cymru a miloedd o swyddi newydd.
Mae’r porthladd rhydd yn cwmpasu’r porthladdoedd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot gyda datblygiadau ynni glân, terfynellau tanwydd, gorsaf bŵer, gwaith peirianneg trwm, a’r diwydiant dur ar draws de-orllewin Cymru yn rhan ohono.
O fewn ardal y porthladd rhydd, cynigir gostyngiadau treth ac eithriadau tollau sylweddol i fusnesau gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er mwyn annog buddsoddiad a thwf. Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn denu £8.4bn o fuddsoddiad preifat a chyhoeddus, yn darparu 11,500 o swyddi newydd ac yn ychwanegu £8.1bn o werth economaidd (GVA) i’r economi leol.
Agorodd y Porthladd Rhydd Celtaidd ar gyfer busnes ym mis Tachwedd 2024 ac mae’n cael ei gefnogi gan £26 miliwn o fuddsoddiad wedi’i glustnodi gan Lywodraeth y DU. Bellach, mae lansiad swyddogol wedi’i gynnal mewn digwyddiad yng Nghaerdydd, gyda Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn bresennol.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae gan y Llywodraeth hon Gynllun ar gyfer Newid sy’n canolbwyntio ar gyflawni twf economaidd a sicrhau bod y DU yn archbŵer ynni adnewyddadwy. Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam sylweddol tuag at gyflawni’r uchelgeisiau hynny.
Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn creu hyd at 11,500 o swyddi hynod grefftus ac sy’n talu’n dda, a gallai ddenu hyd at £8.4bn o fuddsoddiad.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £26 miliwn i’r porthladd rhydd a cheir hefyd cymhellion sylweddol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Rwy’n falch iawn bod gennym bellach ddwy lywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni dros bobl Cymru.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
Mae agoriad swyddogol y Porthladd Rhydd Celtaidd yn rhoi arwydd clir arall i’r byd bod cadarnleoedd diwydiannol De Cymru yn rhan hanfodol o dwf a ffyniant economi carbon isel y DU ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni eisoes yn gweld gwir awydd – ar draws y rhanbarth a thu hwnt – i fanteisio i’r eithaf ar y sgiliau a’r cyfleoedd gwaith a ddaw yn sgil yr oes ddiwydiannol newydd hon.
Bydd Llywodraeth Cymru wrth law’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn darparu gostyngiadau treth mawr i ddenu buddsoddiad busnes, a bydd y Porthladd Rhydd yn gallu defnyddio refeniw ardrethi annomestig yn y dyfodol ar gyfer prosiectau seilwaith a sgiliau hanfodol y bydd Port Talbot ac Aberdaugleddau yn elwa arnynt am genedlaethau i ddod.
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad lansio, dywedodd Luciana Ciubotariu, Prif Weithredwr y Porthladd Rhydd Celtaidd:
Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn cymryd camau breision ymlaen gyda cherrig milltir allweddol wedi’u cyflawni, fel y cydsyniadau cynllunio ar gyfer gorsafoedd cynhyrchu tanwydd awyrennau cynaliadwy LanzaTech, gorsaf Hydrogen Gwyrdd RWE ym Mhenfro, lansio Prosiect CO₂ Aberdaugleddau, prosiect Hydrogen Gorllewin Cymru H2 Energy a Trafigura i sicrhau CfD hydrogen, Haush yn sefydlu pencadlys ynni gwyrdd a’u gorsaf hydrogen gwyrdd yn Noc Penfro, a chymeradwyo’r datblygiad tyrbinau gwynt i ehangu Parc Ynni Adnewyddadwy Dragon Energy.
Mae’r mentrau sydd ar waith gan bartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd, ynghyd â buddsoddiadau mewn storio ynni batri gan RWE ac yn seilwaith y porthladd ym Mhort Talbot, yn sbarduno ail-ddiwydiannu de Cymru ac yn gyrru economi ddatgarboneiddio sy’n gyforiog o ddiwydiannau newydd a diwydiannau sy’n esblygu.
Gweledigaeth y Porthladd Rhydd Celtaidd yw creu coridor arloesi a buddsoddi gwyrdd a fydd yn sbarduno mewnfuddsoddiad, yn datblygu sgiliau, ac yn arwain datgarboneiddio cenedlaethol. Bydd y porthladd rhydd hefyd yn cefnogi cyfleusterau gweithgynhyrchu newydd a’r gwaith uwchraddio sylweddol i seilwaith y porthladdoedd er mwyn hwyluso datblygiadau gwynt arnofiol ar y Môr Celtaidd. Bydd yn darparu’r sylfeini ar gyfer dyfodol glanach gyda’r economi hydrogen, tanwyddau cynaliadwy, technegau dal a storio carbon, dur glanach, a logisteg carbon isel wrth wraidd hynny.
Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn un o 12 Porthladd Rhydd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Byddant yn chwarae rhan allweddol yng Nghenhadaeth Twf Llywodraeth y DU, gan helpu i drawsnewid cadarnleoedd diwydiannol y DU yn ddiwydiannau gwyrdd y dyfodol a chreu miloedd o swyddi o ansawdd uchel i bobl leol.