Stori newyddion

Newidiadau i ffïoedd gwasanaethau gwybodaeth Cofrestrfa Tir EF o Ragfyr

Bydd ffïoedd gwasanaethau gwybodaeth yn cynyddu £4 – y cynnydd cyntaf ers dros 10 mlynedd.

  • Bydd y ffi am wasanaethau gwybodaeth, gan gynnwys Credydau Amaethyddol a Phridiannau Tir – nad yw wedi newid ers dros 10 mlynedd – yn cynyddu £4*.

  • Bydd y cynnydd yn helpu i gyflymu’r broses o wella gwasanaethau, gan gynnwys trwy drawsnewid digidol.

O ddydd Llun 9 Rhagfyr, bydd ffïoedd ar gyfer gwasanaethau gwybodaeth Cofrestrfa Tir EF yn cynyddu am y tro cyntaf ers dros 10 mlynedd.

Mae’r cynnydd yn adlewyrchu costau cynyddol rhedeg a gwella gwasanaethau Cofrestrfa Tir EF, yn ogystal â chynlluniau i gynyddu digideiddio a thrawsnewid data. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda’r cynnydd hwn, bydd y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn parhau i dalu llai nag yr oeddent ym 1992.

O dan adran 102 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, mae angen pennu newidiadau i ffïoedd Cofrestrfa Tir EF trwy gyfrwng gorchymyn ffïoedd (sy’n offeryn statudol). Gosodwyd hwn gerbron y Senedd ar 10 Medi 2024. Cynghorir cwsmeriaid Cofrestrfa Tir EF sydd â systemau awtomataidd i wneud y newidiadau angenrheidiol i’w systemau cyn i’r ffïoedd uwch ddod i rym ar 9 Rhagfyr 2024.

Nid yw’r newid hwn yn effeithio ar adolygiad tymor hirach o fodel ffïoedd a chodi tâl Cofrestrfa Tir EF. Rydym yn parhau ag adolygiad ehangach i benderfynu a yw’r holl ffïoedd yn cyd-fynd â’n cynlluniau strategol a sut y gellir eu gwneud yn llai cymhleth a theg i gwsmeriaid, a galluogi dulliau gwell a mwy agored o gyrchu data ar yr un pryd. Fel rhan o’r adolygiad, byddwn yn archwilio opsiynau prisio i wneud gwasanaethau gwybodaeth mor hygyrch â phosibl, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod yn niwtral o ran cost i’r trethdalwr.

Bydd yr ymateb i’r alwad am dystiolaeth, a gynhaliwyd rhwng Mawrth ac Ebrill eleni, yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf. Bydd y canlyniadau wedyn yn sail i gynnig am newid mwy sylweddol i strwythur ffïoedd Cofrestrfa Tir EF, a fydd yn cael ei rannu mewn ymgynghoriad cyhoeddus llawn.

*Y cynnydd yw £4 y cais ac eithrio ceisiadau Pridiannau Tir a gyflwynir ar bapur. Bydd y rhain yn cynyddu £6 ar gyfer chwiliadau a £5 ar gyfer copïau swyddogol ac archwiliadau i fynd i’r afael ag anghysondeb sy’n bodoli a hefyd i alinio â’r egwyddor o ffïoedd uwch ar gyfer prosesu ceisiadau papur o gymharu â cheisiadau digidol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 September 2024