Gwiriwch i weld a allwch wneud cais am ad-daliad o ffioedd dirprwyo
Bydd cynllun y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ad-dalu unrhyw un a dalodd ormod o ffioedd dirprwyo
Caiff ad-daliadau eu cynnig i unrhyw un y codwyd mwy o ffioedd dirprwyaeth arno nag oedd angen iddo eu talu rhwng y 1af o Ebrill 2008 a’r 31ain o Fawrth 2015.
Lansiodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y cynllun ad-dalu ar y 4ydd o Hydref 2019.
Gall unrhyw un hawlio ad-daliad ar yr amod:
- ei fod wedi cael dirprwy yn y gorffennol
- ei fod yn gweithredu ar ran rhywun oedd â dirprwy ac sydd wedi marw
Mae’n rhaid bod y ddirprwyaeth mewn grym rhwng y 1af o Ebrill 2008 a’r 31ain o Fawrth 2015.
Ni fydd pawb a dalodd ffioedd yn ystod y cyfnod hwn yn cael ad-daliad - dim ond y cleientiaid hynny a dalodd fwy na chost goruchwylio’r dirprwyaethau i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Bydd dirprwyon presennol sy’n gweithredu ar ran cleientiaid presennol yn cael ad-daliad yn awtomatig os bydd arian yn ddyledus iddynt.
Bydd y cynllun yn cael ei redeg gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac nid yw’n berthnasol i ffioedd a delir naill ai i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn yr Alban, i’r Swyddfa Gofalu a Gwarchod yng Ngogledd Iwerddon neu i’r Llys Gwarchod.
Mae canllawiau llawn ar y cynllun ad-dalu a phwy sy’n gymwys i wneud cais ar gael ar y dudalen Hawlio ad-daliad dirprwyaeth.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 October 2019 + show all updates
-
Added Welsh translation
-
First published.