Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan yn cyhoeddi Prif Arolygydd newydd Estyn

Heddiw, [10 Mehefin 2010] cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, fod ei Mawrhydi’r Frenhines wedi cadarnhau ail benodiad Mrs …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, [10 Mehefin 2010] cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, fod ei Mawrhydi’r Frenhines wedi cadarnhau ail benodiad Mrs Ann Keane yn Brif Arolygydd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn).

Wrth wneud y cyhoeddiad meddai Mrs Gillan: “Mae Estyn yn chwarae rol holl bwysig yn codi safonau ac ansawdd y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae hon yn rol bwysig ac rwyf wrth fy modd yn cyhoeddi ail benodi Ann Keane yn Brif Arolygydd.”

“Mae Ann yn meddu ar flynyddoedd lawer o brofiad yn y sector addysg, oherwydd iddi ddal nifer o uwch swyddi yn Estyn dros y blynyddoedd. Rwy’n siŵr y bydd yn adeiladu ar y gwaith caled y mae wedi’i wneud ers dod yn Brif Arolygydd ym mis Chwefror a dymunaf yn dda iddi yn ei thymor newydd yn y swydd.”

**Nodiadau: **

Cafodd Mrs Keane ei hail-benodi drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru. 

I gael rhagor o wybodaeth am Estyn cliciwch yma: http://www.estyn.gov.uk/home.asp

Mrs Ann Keanne - Bywgraffiad

Ganed Ann Keane, sy’n siarad Cymraeg, yng Nghaerfyrddin a mynychodd Ysgolion Cynradd Llanboidi a Llanymddyfri ac Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri, cyn symud i Ysgol Ramadeg Ystalyfera ac Ysgol Ramadeg Llandysul.

Yn ddiweddarach, symudodd Ann i Aberystwyth i astudio llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac yna bu yn Ysgol Economeg Llundain pryd enillodd gymwysterau ol radd mewn addysg a gweinyddiaeth gymdeithasol. Aeth ymlaen i ennill gradd Meistr mewn hanes celf yng Ngholeg Prifysgol Llundain.

Yn ystod ei gyrfa broffesiynol gynnar treuliodd amser fel athrawes yn Ysgol Uwchradd Brentside yn Llundain, Coleg Technegol Merthyr Tudful, Coleg Celf Harrow a Choleg Celf Caergaint cyn cael ei phenodi i Sefydliad Addysg Uwch Essex (Prifysgol Anglia Ruskin yn awr).

Yn 1984, ymunodd Ann ag Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru (Estyn) a bu’n dal nifer o swyddi, gan gynnwys Arolygydd Dosbarth, AEM Rheoli a Phennaeth y Gyfarwyddiaeth yn gyfrifol am arolygu darpariaeth blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd, uwchradd, ysgolion arbennig ac ysgolion annibynnol, darpariaeth addysg bellach a chyfrwng Cymraeg.

Yn fwy diweddar, penodwyd Ann yn Gyfarwyddwr Strategol yn Estyn gyda’r cyfrifoldeb cyffredinol dros ddarparu atebolrwydd cyhoeddus drwy gyflawni arolygiadau cylchol o addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 10 June 2010