Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan yn cael ei phenodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Mae Cheryl Gillan wedi cael ei phenodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Bydd Mrs Gillan, a anwyd yng Nghaerdydd, yn cymryd y sedd yn y Cabinet…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan wedi cael ei phenodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Bydd Mrs Gillan, a anwyd yng Nghaerdydd, yn cymryd y sedd yn y Cabinet i gynrychioli buddiannau Cymru yn San Steffan, fel rhan o Lywodraeth glymblaid newydd y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol, dan arweiniad David Cameron.

Hi fydd 15fed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a’r fenyw gyntaf i ddal y swydd.

Dywedodd Mrs Gillan: “Fel gwleidydd sy’n falch o’i gwreiddiau Cymreig, mae’n gryn anrhydedd i mi gael fy mhenodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Fel y fenyw gyntaf i gael ei phenodi’n Ysgrifennydd Cymru, edrychaf ymlaen at ddefnyddio agwedd synnwyr cyffredin i helpu i dorri drwy’r rhuo a’r rhefru sy’n gysylltiedig a gwleidyddiaeth Cymru er mwyn sicrhau’r fargen decaf i bobl Cymru ac i wneud yn siŵr eu bod yn cael y gwasanaethau gorau posibl.

“Mae gennym wlad fendigedig ac iddi dreftadaeth gyfoethog, diwylliant amrywiol a dyfodol cyffrous a llewyrchus. Yn fuan iawn, bydd Cwpan Ryder yn rhoi Cymru ar lwyfan y byd, a byddaf yn gweithio’n galed iawn gyda fy nhim yn Swyddfa Cymru a chyda’n partneriaid ledled Cymru, gan gynnwys Llywodraeth y Cynulliad ac Awdurdodau Lleol i sicrhau bod pawb yn gwybod bod Cymru’n wlad o’r radd flaenaf gyda photensial o’r radd flaenaf.

“Rwy’n edrych ymlaen at feithrin perthynas adeiladol a phwrpasol gyda’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, a’i Gabinet ym Mae Caerdydd. Mae perthynas Carwyn a minnau wedi bod yn un wresog a chwrtais erioed, ac rwy’n disgwyl y bydd hynny’n parhau. Ni ddaw dim ond manteision i Gymru wrth i’r llywodraeth yn San Steffan a Chaerdydd gydweithio.”

Dywedodd Mrs Gillan y byddai hi’n ceisio trefnu cyfarfod a’r Prif Weinidog mor fuan a phosibl i drafod economi Cymru a refferendwm ar gyfer rhagor o bwerau deddfwriaethol i Gymru.

Dywedodd: “Fel y mae David Cameron a minnau wedi’i ddweud eisoes, byddaf yn parhau a’r trefniadau ar gyfer refferendwm ar ragor o bwerau deddfwriaethol yn unol a chais Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y penderfyniad yn nwylo pobl Cymru wedyn.

“Yn y cyfamser, mae’r dirwasgiad wedi cael cryn effaith ar Gymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer diweithdra a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos bod diweithdra yng Nghymru wedi cyrraedd 9.3 y cant. Teuluoedd a phobl ifanc ledled Cymru fu’r dioddefwyr go iawn yn y dirwasgiad hwn. Dyna pam mae arnom angen dull newydd o fynd ati i greu a diogelu swyddi, cefnogi busnesau, a buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant.

“Gall cynlluniau newydd gan y Llywodraeth, megis rhoi manteision treth i gwmniau sy’n creu swyddi newydd, sicrhau bod Cymru’n dechrau gweithio unwaith eto.”

Fe’i ganwyd yn Llandaf, Caerdydd, yn 1952. Ar ol dilyn gyrfa ym myd busnes cafodd ei hethol yn Aelod Seneddol Chesham ac Amersham ym mis Ebrill 1992. 

A hithau’n gyn Is-ysgrifennydd Seneddol yn yr Adran Addysg a Chyflogaeth, mae Mrs Gillan wedi bod yn Ysgrifennydd yr Wrthblaid dros Gymru er 2005.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 May 2010