Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan yn ymuno â’r Canghellor i gyhoeddi cyllid o £10m ar gyfer cyflwyno band eang cyflym iawn yng Ngogledd Cymru

Mae sicrhau cyllid er mwyn ymestyn band eang cyflym iawn i Bwllheli a’r ardaloedd cyfagos yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth bod Cymru wrth galon…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae sicrhau cyllid er mwyn ymestyn band eang cyflym iawn i Bwllheli a’r ardaloedd cyfagos yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth bod Cymru wrth galon cynlluniau’r DU i gael y rhwydwaith cyflym iawn gorau yn Ewrop erbyn 2015, meddai Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, heddiw.

Roedd Mrs Gillan yn ymweld a Gogledd Cymru gyda George Osborne, Canghellor y Tryslorlys, pan gyhoeddodd y bydd cyllid o £10 miliwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi camau cynnar cyflwyno band eang cyflym iawn yng Nghymru.

Bydd y cyllid yn helpu i gyflwyno Band Eang y Genhedlaeth Nesaf ym Mhwllheli a’r ardaloedd cyfagos fel rhan o gynllun cyflwyno cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cymru gyfan.

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Mrs Gillan: “Mae cyhoeddiad heddiw yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth hon bod Cymru wrth galon ein cynlluniau i sicrhau y bydd gan y DU y rhwydwaith cyflym iawn gorau yn Ewrop erbyn 2015. Er mwyn sicrhau y bydd hyn yn digwydd, mae angen i ni brofi dulliau arloesol sy’n dod a band eang i ardaloedd anodd eu cyrraedd a bydd cyhoeddiad heddiw ynghylch sicrhau cyllid ar gyfer ymestyn band eang cyflym iawn i Bwllheli ac ardaloedd cyfagos Gogledd Cymru yn sicr o wneud hynny.

“Rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno’r prosiect hwn yng ngogledd orllewin Cymru.”

“Mae Strategaeth Band Eang y DU yn rhaglen uchelgeisiol ar gyfer pob rhan o’r DU. Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, rwyf wedi bod yn awyddus ein bod yn dysgu gwersi o ran cyflwyno band eang yn un o ardaloedd mwy gwledig Cymru. Felly rwy’n hynod o falch bod un o’r prosiectau peilot cynharaf i gael ei ddewis ledled y DU yng Nghymru.”

“Mae’r cyfraniad y mae band eang yn ei wneud i’r economi ehangach yn hollbwysig ac mae Grŵp Cynghori ar Fusnes Swyddfa Cymru eisoes wedi tynnu sylw at hyn. Mae’r prosiect peilot hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygiad economaidd yng Nghymru drwy fuddsoddi yn seilwaith y dyfodol.”

Cafodd y cyllid newydd ei gyhoeddi tra’r oedd Ysgrifennydd Cymru a’r Canghellor yn ymweld a ffatri JCB yn Wrecsam. Tra’r oeddent yno, cyhoeddodd JCB hefyd ei fod yn llofnodi contract newydd ar gyfer 350 o gerbydau gyda busnes yn y DU, a’i fod yn creu ac yn recriwtio ar gyfer dros 80 o swyddi peirianneg newydd o fewn y cwmni’n genedlaethol.

Dywedodd y Canghellor: “Ar ol gweld y cyfleoedd twf posibl yn Wrecsam heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi £10 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer Cymru a fydd yn helpu i ymestyn band eang cyflym iawn i Bwllheli a’r ardaloedd cyfagos. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi economi Cymru ac yn helpu i sicrhau adferiad dan arweiniad y sector preifat drwy arwain cyfleoedd arloesol a masnachol mewn cymunedau ledled Cymru.

“Dim ond ton gyntaf y cyllid i Gymru yw hon o dros hanner biliwn o bunnoedd rydym eisoes wedi’i roi o’r neilltu er mwyn ymestyn band eang cyflym iawn ledled y DU.”  

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Gwladol:** “Mae’n dda gweld bod JCB yn recriwtio unwaith eto ac wedi llofnodi contract newydd mawr heddiw ar gyfer 350 o gerbydau. **Gwn fod y cwmni wedi cael amser anodd, fel llawer o fusnesau yn ystod y dirwasgiad, felly mae’n dda gweld bod pethau’n gwella yma.”

Dywedodd gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, AC ar gyfer Gorllewin Clwyd: “Fel AC Gogledd Cymru, gwn y bydd y cyhoeddiad yn cael ei groesawu’n fawr yn yr ardal. Mae gan Ogledd Cymru nifer o “ardaloedd di-wifr”, lle mae hi’n amhosibl cael band eang derbyniol.

“Mae band eang yn hollbwysig i ffermwyr a phobl eraill sy’n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig. Bydd y gwersi a gaiff eu dysgu wrth roi cynllun Pwllheli ar waith yn cyflymu’r broses o gyflwyno band eang cyflym iawn ledled Gogledd Cymru.”

Cyhoeddwyd ar 11 February 2011