Cheryl Gillan yn sicrhau dyfodol i Swyddfa Basbort yng Nghasnewydd
Heddiw (12 Hydref), mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi sicrhau dyfodol i’r Swyddfa Basbort yng Nghasnewydd yn dilyn trafodaethau…
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a37dabaed915d5a5f965fd7/s300_UKG_Logo__2_.png)
Heddiw (12 Hydref), mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi sicrhau dyfodol i’r Swyddfa Basbort yng Nghasnewydd yn dilyn trafodaethau ag un o Weinidogion y Swyddfa Gartref a phennaeth y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS).
Cyfarfu Mrs Gillan a Sarah Rapson, prif weithredwr IPS, a Damian Green, y Gweinidog dros Fewnfudo, i drafod cynlluniau i gau’r ganolfan prosesu pasbortau yng Nghasnewydd yn 2012.
Yn dilyn y cyfarfod yn Nhŷ Gwydyr, Llundain, dywedodd Mrs Gillan: “Mewn cyfarfod anodd ond cynhyrchiol, rwyf wedi cael ymrwymiad gan yr IPS y bydd swyddfa newydd, a fydd yn delio a chwsmeriaid wyneb yn wyneb, yn cael ei hagor yng Nghasnewydd, gan ddiogelu hyd at 45 o swyddi a gwasanaethu hyd at 47,000 o bobl y flwyddyn.
“Yn y cyfarfod heddiw, mae’r IPS hefyd wedi fy sicrhau y bydd yr Asiantaeth yn gwneud popeth y gall i osgoi’r posibilrwydd o ddiswyddiadau gorfodol petai swyddfa Casnewydd yn cau. Bydd y rheolwyr yn rhoi gwybod i mi am y diweddaraf drwy gydol y cyfnod 90 diwrnod o ymgynghori, a fydd yn dechrau’r wythnos nesaf.”
Dywedodd Mrs Gillan y byddai cwsmeriaid yng Nghymru yn dal i allu defnyddio gwasanaeth llawn sy’n eu galluogi i wneud cais am basbort dros y cownter, gan fod yr IPS wedi cytuno y bydd y gwasanaeth yn aros yng Nghasnewydd.
Dywedodd: “Mae’n golygu y bydd pobl Cymru yn dal i allu defnyddio Swyddfa Basbort yng Nghasnewydd ac yn cael gwasanaeth o’r un lefel ag y maent yn ei chael ar hyn o bryd, gan gynnwys gwasanaeth prosesu pasbortau’r un diwrnod. Mae hyn yn cyd-fynd yn llwyr a’r gwasanaeth sydd ar gael yn yr Alban.
**Nodiadau **
- Bydd y swyddfa newydd yng Nghasnewydd yn cynnig gwasanaeth gwneud cais wyneb yn wyneb a gwasanaeth danfon i gwsmeriaid ag anghenion brys, ac yn cynnal cyfweliadau dilysu, yn ymdrin ag ymholiadau, ac yn datrys materion.** **
- **Mae’r IPS **yn cynnig swyddfa sy’n delio a chwsmeriaid wyneb yn wyneb yn Glasgow yn sgil cau’r ganolfan prosesu pasbortau yn Glasgow ddwy flynedd yn ol.