Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan yn annog Cymru i enwebu cludwyr y Ffagl Olympaidd

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn galw am enwebiadau am gludwyr ffagl ar gyfer Taith y Ffagl Olympaidd, a fydd yn teithio drwy…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn galw am enwebiadau am gludwyr ffagl ar gyfer Taith y Ffagl Olympaidd, a fydd yn teithio drwy Gymru a gweddill y DU cyn cyrraedd Llundain ar gyfer dechrau Gemau 2012 yr haf nesaf. 

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru ei bod yn gobeithio y byddai pobl yn awgrymu unigolion o bob math o gefndiroedd sydd wedi gwneud eu gorau glas a mwy i ysbrydoli eraill i gyflawni eu nodau. Bydd y ffagl yn cyrraedd Cymru union flwyddyn i’r wythnos hon, gan gychwyn yng Nghaerdydd cyn mynd i Abertawe, Aberystwyth a Bangor.

Dywedodd Mrs Gillan: “Fe fydd gan bob un o’r 8,000 fydd yn cludo’r ffagl stori arbennig. Fe fyddant yn cynrychioli straeon o obaith, ymrwymiad, penderfyniad a dewrder. Fe fydd yna bobl sydd wedi llwyddo er gwaethaf popeth ac sydd wedi rhoi popeth sydd ganddyn nhw i’w cymunedau. 

“Mae’r ffagl yn symbol o ysbryd y Gemau Olympaidd ac rydw i am i bobl enwebu’r unigolion hynny sydd wedi ysbrydoli neu annog eraill i gyflawni eu nodau. Rydw i’n sicr y bydd croeso cynnes Cymreig i’w gael wrth i’r Ffagl deithio ar draws Cymru. Fe fydd hwn yn gyfle unigryw i nifer o bobl gymryd rhan mewn digwyddiad hanesyddol, arbennig, ar garreg ein drws.”

Mae manylion ynghylch sut i enwebu ar gael yn  www.london2012.com/olympictorchrelay neu drwy ffonio 0800 111 6448. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 29 Mehefin 2011.

Cyhoeddwyd ar 25 May 2011