Cheryl Gillan yn Ymweld ag Ysgol Gymraeg Llundain
Heddiw [Dydd Llun 13 Medi], ymunodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a disgyblion Ysgol Gymraeg Llundain yn eu Gwasanaeth boreol. …
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a37dabaed915d5a5f965fd7/s300_UKG_Logo__2_.png)
Heddiw [Dydd Llun 13 Medi], ymunodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a disgyblion Ysgol Gymraeg Llundain yn eu Gwasanaeth boreol.
Mae Ysgol Gymraeg Llundain, yn Stonebridge, yn ysgol annibynnol ar gyfer plant rhwng pedair ac 11 oed sy’n darparu addysg ddwyieithog i ddisgyblion sy’n byw yn Llundain. Ar hyn o bryd, mae gan yr ysgol 30 o ddisgyblion llawn-amser.
Meddai Mrs Gillan: “Roeddwn yn falch iawn o gael ymuno a’r disgyblion yn eu Gwasanaeth boreol a’u clywed yn adrodd eu haddunedau ysgol. Mae’r ysgol yn darparu cyfle unigryw i blant sy’n byw yn Llundain i gael profiad o addysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg y tu allan i Gymru. Gall teuluoedd sydd a chysylltiadau Cymraeg gynnig dolen gyswllt hanfodol drwy addysg eu plant i dreftadaeth Cymru a’r iaith Gymraeg.
Wrth siarad ar ol yr ymweliad, meddai Mrs Gillan, “Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod a’r plant eto ar Fawrth 1af pan fyddan nhw’n ein helpu i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Nhŷ Gwydyr. Roedd yn bleser cyfarfod a Chadeirydd a Dirprwy Gadeirydd y Llywodraethwyr a’r staff, bob un ohonynt yn ymroddedig iawn ac yn darparu gwasanaeth rhagorol i’r plant”.