Cheryl Gillan yn croesawu penodi Cyfarwyddwr newydd BBC Cymru Wales
Croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru benodiad Rhodri Talfan Davies yn Gyfarwyddwr BBC Cymru Wales heddiw. Dywedodd Mrs Gillan: “Dymunaf anfon…
Croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru benodiad Rhodri Talfan Davies yn Gyfarwyddwr BBC Cymru Wales heddiw.
Dywedodd Mrs Gillan: “Dymunaf anfon fy llongyfarchiadau cynhesaf at Rhodri Talfan Davies ar ei benodiad fel Cyfarwyddwr newydd BBC Cymru Wales.
“Mae dyfnder ei brofiad yn siarad drosto’i hun, ac rwy’n sicr y bydd yn parhau i gryfhau’r cynnyrch sydd mor hanfodol i Gymru a’i diwylliant. Gyda datblygiad y Pentref Drama ym Mae Caerdydd, mae’n amser cyffrous i BBC Cymru Wales.
“Rwyf fi a’r tim yn Swyddfa Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda Mr Davies yn y dyfodol.”