Datganiad i'r wasg

“Cais Dinas Diwylliant yw cyfle Bae Abertawe i ddisgleirio”

Ysgrifennydd Cymru’n cefnogi cais Bae Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2017

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
UK City of Culture 2017

UK City of Culture 2017

Yma mae’r ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf i gael ei sefydlu yn y DU a dyma’r rhanbarth a ddaeth â’r rheilffordd teithwyr cyntaf i’r byd, felly mae cyflawniadau nodedig iawn Bae Abertawe, o’r presennol a’r gorffennol, yn golygu ei fod yn gystadleuydd safonol iawn ar gyfer cael ei goroni’n Ddinas Diwylliant y DU yn 2017.

Dyma farn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, a fydd heddiw (27 Medi) yn ymweld ag Abertawe i gael blas ar y diwylliant sy’n cael ei gynnig yn y rhanbarth. Bydd yn ymweld â Chanolfan Gelfyddydau Taliesin, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a safle Gwaith Copr Hafod, gan bwysleisio ei gefnogaeth lawn i gais y ddinas am statws Dinas Diwylliant yn 2017.

Bydd Bae Abertawe – sy’n cynnwys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Llanelli a Chaerfyrddin - yn herio Hull, Dundee a Chaerlŷr wrth geisio ennill y teitl anrhydeddus a allai roi hwb i fywyd ac economi ddiwylliannol y ddinas. Yn 2010, cyhoeddwyd mai Derry-Londonderry fyddai Dinas Diwylliant gyntaf y DU yn 2013.

Bydd ennill y teitl a chynnal blwyddyn o ddigwyddiadau diwylliannol yn helpu i ddenu mwy o ymwelwyr i’r ddinas, gan ddod ag aelodau’r gymuned at ei gilydd a chynyddu’r cydweithio rhwng pobl ar brosiectau creadigol.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

O Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, y milltiroedd o arfordir trawiadol o amgylch Penrhyn Gŵyr, a Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin, does gen i ddim amheuaeth mai nawr yw amser Bae Abertawe i ddisgleirio.

Rydw i wedi cael fy ysbrydoli gan weledigaeth a brwdfrydedd tîm y cais ac rydw i’n gwybod y byddan nhw’n cyflwyno’r achos cryfaf posib yn y ras am y teitl.

Rheolir y rhaglen Dinas Diwylliant gan yr Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac mae wedi’i hysbrydoli gan gyfnod Lerpwl fel Dinas Diwylliant Ewrop yn 2008.

Canfu arolwg a gomisiynwyd gan Gyngor Dinas Lerpwl er mwyn mesur effaith yr ŵyl bod Lerpwl wedi croesawu 9.7 miliwn o ymwelwyr ychwanegol i’r ddinas yn ystod blwyddyn y ddinas fel Dinas Diwylliant Ewrop, gan arwain at fwy na £735 miliwn o wariant ychwanegol gan ymwelwyr.*

Bydd Bae Abertawe, ynghyd â’r tair dinas arall ar y rhestr fer, yn cyflwyno cais terfynol i’r Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon erbyn diwedd mis Medi. Yna bydd panel ymgynghorol annibynnol yn cyfarfod eto i benderfynu ar enillydd, a gyhoeddir ym mis Tachwedd 2013.

Ychwanegodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Bae Abertawe yn llawn haeddu’r cyfle i chwifio baner diwylliant Cymru yn 2017. Mae Swyddfa Cymru yn gwbl gefnogol i’w gais am statws Dinas Diwylliant a dymunwn bob llwyddiant i’r tîm.

NODIADAU I OLYGYDDION

*Dyfernir y teitl Dinas Diwylliant i ddinas bob pedair blynedd am gyfnod o flwyddyn.

*Yr un ar ddeg dinas a gyflwynodd eu henwau ar gyfer teitl Dinas Diwylliant y DU 2017 oedd: Aberdeen, Caer, Dundee, Dwyrain Caint, Hastings a Bexhill-on-Sea, Hull, Caerlŷr, Plymouth, Portsmouth a Southampton, Southend on Sea a Bae Abertawe.

*Daw’r ffigurau o adroddiad ymchwil ‘Creating an Impact: Liverpool’s Experience as European Capital of Culture’.

Cyhoeddwyd ar 27 September 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 October 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation

  3. First published.