Datganiad i'r wasg

Hyrwyddwyr cymunedol ac arwyr tawel o Gymru yn cael eu dathlu yn Anrhydeddau 2025

Mae mwy na 50 o bobl o Gymru wedi derbyn anrhydeddau yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Ei Mawrhydi y Brenin ar gyfer 2025.

New Year Honours 2025

Mae 58 o bobl o Gymru wedi derbyn hanrhydeddau yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd EF y Brenin 2025, a gyhoeddwyd heddiw gan Swyddfa’r Cabinet.

Mae’r rhai sy’n derbyn yr anrhydedd eleni wedi cael eu gwobrwyo am eu cyfraniadau rhagorol ar draws pob sector, ond mae hyrwyddwyr cymunedol a rhoi anhunanol yn cael eu cydnabod yn benodol. Mae’r Rhestr yn sicrhau bod pobl o gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli ac amrywiaeth eang o fathau o waith yn cael eu gwobrwyo, er mwyn dathlu cyfraniad gwych pobl ledled y wlad.

Pobl o Gymru yw 5% o’r rhai sy’n cael eu hanrhydeddu eleni.

Gall unrhyw un enwebu rhywun am anrhydedd. Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi cyflawni pethau eithriadol sy’n haeddu cydnabyddiaeth, gallwch eu henwebu yn https://www.gov.uk/honours

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:

Llongyfarchiadau mawr i bawb o Gymru sydd wedi cael eu cydnabod ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.

Mae’n ysbrydoliaeth gweld y gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan gynifer o bobl o amrywiaeth enfawr o gefndiroedd, o bob rhan o Gymru ac ym mhob sector o fywyd. Pobl yw’r rhain sy’n rhoi o’u hamser o’u gwirfodd i godi arian i elusen neu i wirfoddoli i helpu aelodau agored i niwed yn eu cymuned.

P’un ai fod eu hangerdd yn ymwneud â chwaraeon, iechyd a llesiant neu gerddoriaeth a’r celfyddydau, mae eu cyfraniadau’n gwneud gwahaniaeth enfawr i’n bywydau ni i gyd a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt.

Derbynwyr nodedig ledled Cymru

  • Mae Richard Parry o Gaerdydd yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) am wasanaethau i Gerddoriaeth ac i Ganu Corawl. Mae wedi cyfeilio i rai o brif berfformwyr Cymru a’r DU, gan gynnwys Rebecca Evans, Katherine Jenkins, Shan Cothi, Gwawr Edwards, Beverley Humphreys, John Owen Jones, Rhys Meirion a Lesley Garrett. Daeth yn gyfeilydd Côr Meibion Pendyrus, sydd wedi ennill bri rhyngwladol, yn 1973 ac mae’n parhau yn y swydd hyd heddiw, gan ennill Aelodaeth Oes o’r côr yn 1994.

  • Mae Diane Locke o Benrhiwceiber yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) am wasanaethau i gymuned Penrhiwceiber, Rhondda Cynon Taf. Mae’n chwilio am grantiau a chynlluniau sydd â’r nod o roi hwb i ardaloedd difreintiedig, gan wneud cynnydd sylweddol ym maes datblygu cymunedol. Un o’i llwyddiannau nodedig yw trawsnewid Pwll Gerddi Lee, o gyfleuster a oedd wedi’i esgeuluso i fod yn ganolfan gymunedol fywiog. Yn ogystal â’i chynlluniau sy’n canolbwyntio ar y gymuned, mae Diane yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi grwpiau agored i niwed, fel mamau newydd, drwy raglenni fel Baby Basics.

  • Mae Moawia Bin-Sufyan o Gaerdydd yn derbyn MBE am ei wasanaethau i Gydlyniant Cymunedol a Chysylltiadau Rhyng-ffydd yn Ne Cymru. Mae wedi bod yn sbardun ar gyfer deialog rhyng-ffydd a chydlyniant cymunedol yn Ne Cymru ers dros 20 mlynedd. Mae’n sylfaenydd ac yn aelod o fwrdd nifer o elusennau, ac mae’n gweithio’n frwd yn ei gymuned leol i hyrwyddo amrywiaeth a gofal iechyd, yn enwedig ymysg cymuned Islamaidd Cymru.

  • Mae Sabrina Fortune o’r Wyddgrug yn derbyn MBE am athletau. Mae ei Chorff Llywodraethu Cenedlaethol yn cydnabod mai hi yw taflwr maen F20 i fenywod mwyaf blaenllaw’r byd, ar ôl ennill pencampwriaeth y byd dair gwaith ac yn fwyaf diweddar y fedal aur yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis. Yn y Gemau Paralympaidd yn Rio yn 2016, enillodd fedal efydd pan aeth i’r Gemau am y tro cyntaf, gyda thafliad gorau personol o 12.94m. Yn 2018 hawliodd ei theitl mawr cyntaf, gan ennill y fedal aur yng nghystadleuaeth taflu maen F20 Ewrop yn Berlin. Wrth baratoi ar gyfer y Gemau Paralympaidd, gosododd record fyd-eang newydd ym mis Gorffennaf yn Birmingham, yn ogystal ag yn Kobe, Japan, cyn ennill y fedal aur ym Mharis gyda’i thafliad cyntaf yn y gystadleuaeth, gan dorri ei record byd ei hun yn y broses.

  • Mae Francesca Bell o Aberhonddu yn derbyn BEM am wasanaethau i Ddatblygu Cymunedol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae hi wedi gweithio fel Swyddog Datblygu Cymunedol Awdurdod y Parc Cenedlaethol dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae hi wedi hyrwyddo ymgysylltiad pob rhan o’r gymuned ac ymwelwyr i fwynhau a chael mynediad at harddwch naturiol y Parc Cenedlaethol a’i dirweddau. Yn bersonol, bu’n gwirfoddoli yn y gymuned ers tro byd yn Aberhonddu a’r ardal gyfagos.

Gall unrhyw un enwebu rhywun am anrhydedd yma: https://www.gov.uk/honours.

Darganfyddwch y rhestr llawn yma.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Rhagfyr 2024