Stori newyddion

Dyfarnwyd Safon Aur i Dŷ'r Cwmnïau yng Ngwobrau Mynegai Lles yn y Gwethle Mind

Rydym wedi ennill y safon Aur yng Ngwobrau Mynegai Lles yn y Gweithle Mind eleni am ein hymrwymiad i iechyd meddwl ein cydweithwyr.

Cynhaliwyd Gwobrau Mynegai Lles yn y Gweithle Mind eleni ym mis Mai 2022 yn dathlu’r sefydliadau (nifer) a enillodd wobrau Aur, Arian neu Efydd am hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol.

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi ennill y safon ‘Cyflawni Rhagoriaeth’ Aur mawreddog ar gyfer 2021 i 2022. Roeddem yn yr 16eg safle allan o 119 o sefydliadau a gymerodd ran.

Dywedodd Angela Lewis, Cyfarwyddwr Trawsnewid Pobl yn Nhŷ’r Cwmnïau:

Er gwaethaf yr heriau rydym i gyd wedi’u hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy’n falch ein bod wedi parhau i flaenoriaethu cefnogi ein cydweithwyr fel y gallant ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i’n cwsmeriaid. Mae ennill y safon Aur yn gyflawniad rhagorol ac yn cydnabod ein hymroddiad i les yn y gweithle.

Y wobr Aur gan Mind yw’r uchaf y gall sefydliad ei dderbyn, ac mae’n dangos ein bod wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith cefnogol. Rydym wedi cyflawni hyn drwy fentrau fel ein rhwydwaith iechyd meddwl sy’n ein helpu i ddeall a chefnogi anghenion ein cydweithwyr.

Diolch i bawb yn Nhŷ’r Cwmnïau sydd wedi helpu i hyrwyddo a chefnogi iechyd meddwl cadarnhaol yn ein gweithle.

Ewch i wefan Mind i gael rhagor o wybodaeth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 June 2022