Ffioedd Tŷ'r Cwmnïau yn cynyddu o 1 Mai 2024
Rydym yn adolygu ein ffioedd bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn cael eu gosod ar y lefel gywir.
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/65d36ca6e1bdec431f322224/s300_GOV_960_x_640.jpg)
Gosodir ffioedd Tŷ’r Cwmnïau ar sail adennill costau. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’n ffioedd dalu cost y gwasanaethau a ddarparwn. Nid ydym yn gwneud elw ar ein costau.
Rydym wedi cyhoeddi rhestr o holl ffioedd newydd Tŷ’r Cwmnïau o 1 Mai 2024.
Mwy o wybodaeth
Ewch i Newidiadau i gyfraith cwmnïau’r Deyrnas Unedig.
Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyrau e-bost o Dŷ’r Cwmnïau.
Darllenwch ein blog am ddiweddariadau ar ddiwygio deddfwriaethol.