Stori newyddion

Tŷ'r Cwmnïau yn gwneud cynnydd ar weithredu’r diwygiadau

Mae'r Adran Busnes a Masnach yn adrodd ar sut mae Tŷ'r Cwmnïau yn gweithredu ar rannau 1 i 3 o’r Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023.

Mae’r Adran Busnes a Masnach wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd ar weithredu rhannau 1 i 3 o’r Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023.

Mae’r Ddeddf, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Hydref 2023, yn ceisio mynd i’r afael â’r bygythiad o gyllid anghyfreithlon wrth barhau i’w gwneud hi’n hawdd i fasnach gyfreithlon wneud busnes.

Mae Rhannau 1 i 3 o’r Ddeddf yn cynnwys:

  • diwygiadau i brosesau Tŷ’r Cwmnïau a swyddogaethau ac amcanion statudol newydd ar gyfer y Cofrestrydd Cwmnïau
  • diwygiadau i’r cyfreithiau sy’n berthnasol i bartneriaethau cyfyngedig
  • darpariaethau newydd sy’n ymwneud â’r Gofrestr Endidau Tramor, a gyflwynwyd gan y Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022

Cyflawnodd Tŷ’r Cwmnïau y cam cyntaf o’r diwygiadau ar 4 Mawrth 2024. Roedd hyn yn cwmpasu’r systemau, y broses a’r newid sefydliadol oedd eu hangen i weithredu’r amcanion a phwerau newydd y cofrestrydd a gofynion cyfreithiol newydd i gwmnïau.

Bydd yr Adran Busnes a Masnach yn gwneud adroddiadau cynnydd i’r Senedd ar y gweithrediad o rannau 1 i 3 o’r Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol (ECCT Act) bob 12 mis hyd at 2030.

Darllenwch yr adroddiad cynnydd y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 May 2024