Stori newyddion

Tŷ'r Cwmnïau i ymuno GOV.UK One Login

O hydref 2024, bydd gwasanaethau ar-lein Tŷ'r Cwmnïau yn dechrau symud i GOV.UK One Login.

O hydref 2024, bydd ein gwasanaethau ar-lein yn dechrau symud i GOV.UK One Login, y ffordd syml, ddiogel a newydd o gael mynediad at wasanaethau digidol y llywodraeth.

Mae GOV.UK One Login yn caniatáu mynediad i amrywiaeth o wasanaethau llywodraeth ganolog i ddefnyddwyr gan ddefnyddio un cyfrif yn unig, un enw defnyddiwr ac un cyfrinair. Mae hyn yn golygu na fydd angen iddynt ddarparu eu gwybodaeth sawl gwaith. 

Darganfyddwch pa wasanaethau’r llywodraeth y gellir eisoes gael mynediad drwy GOV.UK One Login

‘Dod o hyd i wybodaeth am y cwmni a’i diweddaru’ fydd y gwasanaeth cyntaf Tŷ’r Cwmnïau i ddefnyddio GOV.UK One Login.

Byddwn yn cyflwyno’r newid hwn mewn 2 gam: 

  • beta breifat – byddwn yn gwahodd grŵp bach o ddefnyddwyr y gwasanaeth ‘Dod o hyd i wybodaeth am y cwmni a’i diweddaru’ i fewngofnodi wrth ddefnyddio GOV.UK One Login

  • beta gyhoeddus – bydd gan holl ddefnyddwyr y gwasanaeth ‘Dod o hyd i wybodaeth am y cwmni a’i diweddaru’ yr opsiwn i ddefnyddio GOV.UK One Login i fewngofnodi

Unwaith y bydd beta gyhoeddus wedi’i gwblhau, bydd angen i bob defnyddiwr sy’n mewngofnodi i’r gwasanaeth ‘Dod o hyd i wybodaeth am y cwmni a’i diweddaru’ ddefnyddio GOV.UK One Login.

Bydd gwasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau yn symud i GOV.UK One Login yn ddiweddarach. Byddwn yn rhoi digon o rybudd i ddefnyddwyr cyn i’r newid hwn ddigwydd. 

O dan y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol, bydd angen i unrhyw un sy’n sefydlu, rhedeg, yn berchen neu’n rheoli cwmni yn y DU wirio eu hunaniaeth i brofi mai nhw yw’r person y maent yn honni eu bod.

Pan fyddwn yn cyflwyno’r gofyniad hwn, bydd defnyddwyr yn gallu defnyddio GOV.UK One Login i wirio eu hunaniaeth yn uniongyrchol â Thŷ’r Cwmnïau. 

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 September 2024