Stori newyddion

Penodi David Holdsworth yn Brif Weithredwr newydd APHA

Mae David Holdsworth wedi'i benodi'n Brif Weithredwr newydd Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Mae David Holdsworth wedi’i benodi’n Brif Weithredwr newydd Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Dechreuodd David ar ei swydd ar 25 Ebrill 2022.

Mae’r penodiad yn dilyn proses recriwtio gystadleuol a bydd yn ymgymryd â’r swydd ar sail barhaol.

Dywedodd David Holdsworth, Prif Weithredwr APHA:

Rwy’n teimlo ei bod yn fraint cael ymuno ag APHA yn y cyfnod pwysig hwn. Mae’r asiantaeth yn chwarae rôl hanfodol yn diogelu iechyd anifeiliaid a phlanhigion er budd pobl, yr amgylchedd a’r economi.

Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at weithio gydag arbenigwyr APHA sydd ymhlith y gorau yn y byd, yn ogystal â’n rhanddeiliaid a’n partneriaid er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau ardderchog i’n cwsmeriaid ac i’r DU.

Bywgraffiad David Holdsworth::

  • Cyn ymuno ag APHA fel Prif Weithredwr, David oedd Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Swyddfa Eiddo Deallusol y DU.
  • Mae hefyd wedi gweithio mewn rolau uwch yn y Comisiwn Elusennau a’r Swyddfa Gartref a threuliodd bum mlynedd yn y sector preifat.
  • Mae David yn gymrawd o Sefydliad y Cyfarwyddwyr a bu’n Gadeirydd ar gangen dinas Lerpwl. Ar hyn o bryd, mae David yn un o Ymddiriedolwyr Bwrdd di-dâl y Cyngor Deoniaid Iechyd – sef llais cyfadrannau prifysgolion y DU ar gyfer nyrsio, bydwreigiaeth a’r proffesiynau perthynol i iechyd.

Rhagor o wybodaeth:

  • Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn cyflogi tua 2,500 o aelodau o staff ac yn gweithredu o safleoedd ar draws Prydain Fawr, gan gynnwys labordai arbenigol.
  • Yn ogystal â gweithio ar ran Defra a Llywodraethau Cymru a’r Alban, mae APHA hefyd yn darparu gwasanaethau i adrannau eraill o’r llywodraeth, y diwydiant ffermio, cyrff rhyngwladol a chwsmeriaid masnachol ym mhedwar ban byd.
Cyhoeddwyd ar 12 May 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 May 2022 + show all updates
  1. Welsh translation added

  2. First published.