Datganiad i'r wasg

David Jones yn croesawu Cytundeb gydag un o Weinidogion y Cynulliad ynghylch y Gorchymyn Tai Fforddiadwy

Mae David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, wedi croesawu ymateb Jocelyn Davies, Dirprwy Weinidog dros Dai y Cynulliad, sy’n golygu y gellir…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, wedi croesawu ymateb Jocelyn Davies, Dirprwy Weinidog dros Dai y Cynulliad, sy’n golygu y gellir symud ymlaen gyda Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol y Cynulliad ynghylch Tai Cynaliadwy, yn unol a Chytundeb y Glymblaid.   

Dywedodd Mr Jones: “Cyfarfum a Jocelyn Davies yn gynharach yr wythnos hon er mwyn trafod y Gorchymyn arfaethedig. Rwy’n croesawu ei hymateb adeiladol i’n cynigion i warchod hawliau tenantiaid unigol yng Nghymru wrth iddynt geisio prynu eu tai eu hunain. 

“Mae gwleidyddion o bob plaid yn cydnabod bod y cynllun Hawl i Brynu, ers y 1980au, wedi cyfrannu at symudedd cymdeithasol drwy’r wlad i gyd.

“Mae’r Dirprwy Weinidog dros Dai a minnau wedi cydweithio yn y sefyllfa sy’n bodoli rhwng y Llywodraeth glymblaid a’r sefydliadau datganoledig, lle mae’r ddwy ochr yn parchu ei gilydd ac yn cydnabod bod hynny’n angenrheidiol. A ninnau bellach wedi dod i gytundeb cyfeillgar, bydd Swyddfa Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i fynd a’r Gorchymyn hwn rhagddo mor gyflym ag y bo modd o fewn y gweithdrefnau Seneddol.   

“Rwyf hefyd yn deall rhwystredigaeth Jocelyn Davies, gan i’r Gorchymyn gymryd tair blynedd i ddwyn ffrwyth dan y Llywodraeth Lafur flaenorol. Gyda’r Llywodraeth hon ond mewn grym ers ychydig dros fis, rydym wedi llwyddo i ddod i gytundeb a Dirprwy Weinidog dros Dai y Cynulliad ynghylch Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a fydd, ar ol iddo gael ei gymeradwyo, yn darparu’r pwerau y mae’r Cynulliad wedi gofyn amdanynt i fwrw ymlaen a’i amcanion o ran polisiau tai.”

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 June 2010