Datganiad i'r wasg

Penderfyniad ar Orchymyn refferendwm drafft

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyhoeddi heddiw y dylai refferendwm ar bwerau ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyhoeddi heddiw y dylai refferendwm ar bwerau ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei gynnal cyn diwedd chwarter cyntaf 2011.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog, dywedodd Mrs Gillan yn unol ag adran 1 04(3)(b) Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ei bod yn ysgrifennu ato i’w hysbysu na allai osod y Gorchymyn refferendwm drafft yn y Cyfrin Gyngor gerbron y Senedd cyn pen y cyfnod 120 diwrnod oherwydd amgylchiadau yr oedd hi wedi’u hetifeddu gan y weinyddiaeth flaenorol.

Dywedodd Mrs Gillan: “Rydych chi a minnau, a Dirprwy Brif Weinidog Cymru, wedi trafod amserlen bosibl ar gyfer y refferendwm, gan ystyried yr holl gamau y mae angen eu dilyn er mwyn paratoi ar ei gyfer. Yng ngoleuni ein trafodaeth, rydym wedi cytuno y dylem anelu at gynnal refferendwm cyn diwedd chwarter cyntaf 2011.”

Ar 17 Chwefror 2010, ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Ysgrifennydd Gwladol blaenorol Cymru i’w hysbysu am benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 9 Chwefror i alw am refferendwm ar ragor o bwerau deddfu i’r Cynulliad. Roedd hyn wedi arwain at ofyniad statudol i’r Ysgrifennydd Gwladol naill ai osod Gorchymyn drafft yn y Cyfrin Gyngor dan adran 103(1) Deddf Llywodraeth Cymru (Gorchymyn refferendwm drafft) gerbron y Senedd, neu wrthod gwneud hynny a rhoi rhesymau dros wrthod, cyn pen y cyfnod 120 diwrnod a ddaw i ben ar 17 Mehefin 2010.

Dywedodd Mrs Gillan: “Yr amgylchiadau yr wyf wedi’u hetifeddu gan y weinyddiaeth flaenorol yw’r prif reswm na allaf osod y Gorchymyn drafft o fewn y cyfnod sy’n dod i ben ar 17 Mehefin 2010. Oherwydd hyn, nid wyf wedi gallu cyflawni fy nyletswydd, a nodir yn adran 104(4) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, i ymgynghori a’r Comisiwn Etholiadol ynghylch geiriad cwestiwn y refferendwm, ac o ganlyniad, nid yw’r Comisiwn Etholiadol wedi profi nac adrodd ynghylch eglurder y cwestiwn eto.  Gan i chi benderfynu na ddylid ystyried y dyddiad na’r cwestiwn tan ar ol yr Etholiad Cyffredinol, nid ydym eto wedi cyflwyno cwestiwn i’r Comisiwn Etholiadol, sydd wedi cadarnhau y bydd arno angen o leiaf 10 wythnos i gynnal asesiad ac yna i adrodd yn ei gylch. Mae hyn yn anochel yn arwain at sefyllfa lle na allwn osod y Gorchymyn refferendwm erbyn 17 Mehefin 2010.

Ychwanegodd: “Fodd bynnag, mae Llywodraeth glymblaid y DU wedi ymrwymo o hyd i wneud yn siŵr bod y refferendwm yn mynd rhagddo, ac i osod y Gorchymyn refferendwm drafft cyn gynted ag y bo modd, ar ol derbyn adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar y cwestiwn.

“Yn y cyfamser, rwy’n ddiolchgar am waith ein swyddogion yn llunio drafft o’r Gorchymyn refferendwm, a gobeithiaf y bydd y cydweithrediad hwn yn parhau dros y misoedd nesaf.”

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 June 2010