Profion gyrru ar fin dychwelyd i'r Barri
Ymgeiswyr yn y budd-dal ardal y Barri o wasanaeth mwy lleol fel DSA yn cynnal treial i archwilio agwedd newydd i berfformio profion.
Gallai ymgeiswyr prawf gyrru yn ardal Y Barri elwa o wasanaeth mwy lleol wrth i’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) gynnal treial i archwilio agwedd newydd i gyflawni profion.
Mae hwn yn un o saith treial i ddarparu profion car ymarferol mewn ardaloedd dethol sydd heb ganolfan brawf leol ar hyn o bryd ond sydd o hyd a galw arwyddocaol am brofion.
Cauodd y ganolfan brawf yn Y Barri ym Mawrth 2010 pan ddaeth les y DSA i ben, a symudodd profion i Gaerdydd ac i Benybont. Bydd y treial hwn yn archwilio a ellir darparu profion yn fwy lleol hefyd, o bosibl gan ddefnyddio lleoliadau amgen fel adeiladau awdurdodau lleol, gwestai neu ganolfannau hamdden.
Meddai’r Gweinidog Diogelwch ar y Ffyrdd Mike Penning:
Rwyf eisiau inni fod yn fwy hyblyg ac yn fwy arloesol wrth gyflawni profion gyrru i sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaeth gorau bosibl i bobl ble bynnag maent yn byw.
Ein nod yw darparu gwasanaeth mwy lleol sy’n gyfleus i ymgeiswyr ac sy’n gost-effeithiol ill dau.
Mae’r DSA yn gweithio i adnabod llwybrau prawf addas yn ardal Y Barri ac i ddarganfod lleoliad sy’n cynnig y lefel gywir o wasanaeth ar gyfer ymgeiswyr.
Mae cynlluniau ar gyfer treialon ar draws Lloegr, Yr Alban a Chymru. Caiff pob treial ei fonitro i asesu unrhyw effaith ar lefelau o wasanaeth i gwsmeriaid ac ar y gost o gyflawni, yn ogystal a sicrhau y cynhelir uniondeb y prawf.
Wedyn bydd y DSA yn penderfynu a ellir rhoi’r treialon ar waith mewn ardaloedd eraill sydd heb ganolfan brawf leol ond ble mae digon o alw, yn ogystal a llwybrau a lleoliadau addas.
Bydd y treial yn cynnwys profion car ymarferol yn unig; nid effeithir ar ganolfannau prawf theori.