Datganiad i'r wasg

DVLA yn cyhoeddi Tim Moss CBE yn Brif Weithredwr newydd

Bydd Tim Moss CBE yn arwain cenhadaeth y DVLA i wneud ffyrdd y DU y mwyaf diogel yn y byd a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol.

  • bydd Tim Moss CBE yn dechrau ei rôl newydd ar 31 Mawrth 2025
  • mae’n cyrraedd o Lywodraeth Cymru, lle mae ar hyn o bryd yn Brif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol ac Arolygiaethau
  • mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn diolch i’r Prif Weithredwr blaenorol, Julie Lennard, a’r Prif Weithredwr dros dro, Lynette Rose, am eu gwaith caled

Mae’n bleser gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gyhoeddi bod Tim Moss CBE wedi’i benodi’n Brif Weithredwr newydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), a fydd yn dod i rym ar 31 Mawrth 2025.

Ar hyn o bryd Tim yw Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Corfforaethol ac Arolygiaethau yn Llywodraeth Cymru a chyn hynny bu’n gweithio fel Prif Weithredwr yn y Swyddfa Eiddo Deallusol. Trwy’r rolau hyn, mae gan Tim brofiad helaeth o reoli swyddogaethau gan gynnwys Adnoddau Dynol, Cyllid a Data Digidol, ac mae wedi cymryd cyfrifoldeb am sawl arolygiaeth annibynnol sy’n canolbwyntio ar benderfyniadau cynllunio a chanlyniadau iechyd.

Dywedodd Heidi Alexander, Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth:

Rwy’n falch iawn o gadarnhau Tim Moss CBE fel Prif Swyddog Gweithredol newydd DVLA heddiw.

Mae’n cyrraedd gyda chyfoeth o brofiad o’i amser yn Llywodraeth Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef wrth iddo adeiladu ar waith caled Prif Swyddog Gweithredol blaenorol y DVLA, Julie Lennard.

Hoffwn hefyd estyn fy niolch i Lynette Rose, a lenwodd y rôl dros dro, a dymuno’r gorau iddi wrth iddi ddychwelyd i’w rôl fel Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu ddiwedd mis Mawrth.

Dywedodd Tim Moss CBE, Prif Swyddog Gweithredol DVLA newydd:

Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi i’r rôl fel Prif Swyddog Gweithredol DVLA.

Rwyf wedi mwynhau nifer o gysylltiadau â DVLA dros y blynyddoedd ac wedi gweld y gwaith gwych y mae wedi’i wneud ar drawsnewid digidol a darparu i gwsmeriaid sy’n cyffwrdd â bywydau bron pawb yn y DU. Mae’n anrhydedd i mi allu ymuno â thîm y DVLA a helpu’r cam nesaf o wneud ffyrdd y DU y mwyaf diogel yn y byd a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol.

Roads media enquiries

Media enquiries 0300 7777 878

Switchboard 0300 330 3000

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2025