Mae DVLA yn gofyn i yrwyr i gael golwg arall mewn ymgyrch EYE 735T newydd
Mae DVLA yn lansio ymgyrch golwg genedlaethol er mwyn codi ymwybyddiaeth heddiw (Dydd Llun 23 Gorffennaf 2018).
![DVLA's new EYE 735T campaign](https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/image_data/file/77102/s300_GOV.UK_-_Royalwelsh_Gov.jpg)
Bydd gyrwyr yn cael eu hannog i gymryd y ‘prawf rhif plât’ - ffordd gyflym a hawdd i wirio os ydynt yn bodloni’r isafswm gofynion golwg ar gyfer gyrru. Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob gyrrwr bodloni’r isafswm safonau golwg bob amser wrth yrru mae hyn yn cynnwys gallu darllen plât rhif o 20 metr.
Mae’r ymgyrch yn atgoffa’r cyhoedd eu bod nhw’n gallu gwirio eu golwg wrth gymryd y prawf 20 metr ac yn tanlinellu rhai ffyrdd i adnabod pellter 20 metr wrth ymyl ffordd. Mae’r ymgyrch yn cynghori bod 5 hyd gar neu 8 bae parcio yn ffordd hawdd o fesur y pellter.
Mae’r ymgyrch yn annog unrhyw un sydd â phryderon am eu golwg i ymweld â’u hoptegydd neu’u hoptometrydd am brawf llygad.
Dywedodd Dr Wyn Parry, Uwch Feddyg DVLA:
Mae’r prawf rhif plât yn ffordd syml ac effeithiol i bobl gwirio bod eu golwg yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer gyrru. Y ffordd gyflymach a hawsach i wneud hyn yw gweithio allan beth mae 20 metr yn edrych fel wrth ymyl ffordd - yn nodweddiadol mae hyn yn golygu hyd 5 car wedi eu parcio tu ôl i’w gilydd - wedyn gweld os ydych yn gallu darllen y rhif plât yn glir. Mae’n wiriad hawdd i wneud unrhyw adeg y dydd wrth ymyl ffordd ac yn cymryd ond ychydig o eiliadau.
Mae cael golwg da yn hanfodol ar gyfer gyrru’n ddiogel, felly mae’n hynod o bwysig i yrwyr cael profion llygad rheolaidd. Mae golwg yn gallu dirywio’n naturiol dros amser, felly dylai unrhyw un sydd â phryderon am eu golwg ymweld â’u hoptegydd - peidiwch ag aros tan eich archwiliad nesaf.
Nodiadau i olygyddion
-
Bydd ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol DVLA yn rhedeg trwy gydol yr haf.
-
Mae 20 metr tua 26 o gamau i ddyn a 33 i fenyw.
-
Dywedodd 22% o’r rheini a gymerodd rhan yn yr arolwg eu bod nhw’n gallu gweithio allan y pellter trwy ddefnyddio hyd geir neu fysiau, gyda 21% ymhellach yn dweud y byddent yn defnyddio camau i fesur y pellter. Roedd dim ond 5% yn dweud y byddent yn defnyddio tâp mesur neu fesuriad corfforol arall i amcangyfrif y pellter.
-
Cyhoeddir yr isafswm safonau golwg ar gyfer gyrru ar GOV.UK.
-
Mae DVLA yn cyhoeddi ei chyngor i weithwyr proffesiynol meddygol - yn cynnwys optegwyr ac optometryddion - i helpu asesu ffitrwydd i yrru eu cleifion yn www.gov.uk/dvla/fitnesstodrive.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
E-bost press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407