Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gorllewin Morgannwg yn cydnabod un ar ddeg o bobl
Mae ymdrechion un ar ddeg o bobl, gan gynnwys pedwar cadét ifanc, o bob rhan o Orllewin Morgannwg wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin yn y sir.
I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i chwech o bobl gan Mrs Louise Fleet YH, yn y seremoni yn Nhŷ John Chard VC, Abertawe ddydd Iau 16 Ionawr.
Y chwech oedd y Prif Is-swyddog Leon Murnieks o HMS CAMBRIA, Capten Brian Thorne o Gadetiaid Môr Abertawe; Deborah Boyce o Gadetiaid Môr Castell-nedd a’r Cylch, yr Hyfforddwr Sifil Gareth Phibben, Sharon Vigors a’r Swyddog Gwarant Mark Brittle – i gyd o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol.
Cafodd llwyddiannau pedwar cadét yr Arglwydd Raglaw hefyd eu cydnabod a’u dathlu yn ystod y digwyddiad, lle’r oedd 100 o bobl yn bresennol.
Bu’r Prif Gadét Keira Davies o Gadetiaid Môr Abertawe; y Prif Gadét Nathan Rees o Gadetiaid Môr Port Talbot; Uwch Sarjant Cwmni’r Cadetiaid William Hopkins o Lu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg; a Swyddog Gwarant y Cadetiaid, Dhani Eagle Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, i gyd yn sôn wrth y gynulleidfa am eu hamser gyda’r cadetiaid, gan gynnwys uchafbwyntiau eu rôl dros y misoedd diwethaf.
Mae rôl y cadetiaid hyn yn para tan fis Medi ac mae’n cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda’r Arglwydd Raglaw mewn dyletswyddau swyddogol fel digwyddiadau Coffa, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau.
Hefyd yn ystod y noson cyflwynwyd Medal y Coroni i’r Is-gomander William ‘Bill’ Davies o Gorfflu Cadetiaid Môr Abertawe, i gydnabod ei wasanaeth.
Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol, yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol.
Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifilaidd, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.
Cafodd y digwyddiad gwobrwyo ei drefnu gan Gymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.