Stori newyddion

Gwasanaeth cofrestru gwell i leihau ymholiadau ac oedi

Mae Cofrestrfa Tir EF yn cyflwyno gwiriadau digidol gwell i gefnogi'n cwsmeriaid i gyflwyno ceisiadau di-wall.

MMD Creative/Shutterstock.com

  • Bydd gwallau gweinyddol syml, megis gwallau enw neu rif teitl, yn cael eu hamlygu wrth gyflwyno pob cais digidol trwy Business Gateway a’r Gwasanaeth Cofrestru Digidol yn y porthol.

  • Bydd y gwasanaeth gwell yn cael ei ddarparu yn hydref 2025. Byddwn yn gweithio gyda’n hintegryddion trydydd parti presennol i fudo i’r gwasanaeth newydd yn ystod y misoedd nesaf.
  • Bydd cwsmeriaid yn cael eu hannog i ddatrys gwallau a amlygir cyn ailgyflwyno ceisiadau.
  • Trwy ddatrys y gwallau hyn cyn derbyn ceisiadau, byddwn yn arbed miloedd o oriau a dreulir ar dasgau gweinyddol diangen i’n cwsmeriaid, ac yn galluogi gwell cyflymder gwasanaeth trwy ganiatáu i weithwyr cais ganolbwyntio ar feysydd cofrestru tir mwy cymhleth.

O hydref 2025, ni fydd cwsmeriaid sy’n cyflwyno ceisiadau trwy’r Gwasanaeth Cofrestru Digidol, ar borthol Cofrestrfa Tir EF a thrwy ddarparwyr meddalwedd trydydd parti, yn gallu cyflwyno ceisiadau sy’n cynnwys gwallau syml. Byddwn yn gweithio gydag integreiddwyr trydydd parti i gefnogi mabwysiadu’r gwasanaeth newydd hwn.

Gwneir llawer o’r gwiriadau hyn eisoes yn y Gwasanaeth Cofrestru Digidol ar y porthol, a byddant ar gael yn fuan ar gyfer yr holl feddalwedd sy’n cael ei galluogi gan Business Gateway.

Erbyn 2028, gallai hyn arbed tua 300,000 o oriau’r flwyddyn i gwsmeriaid sy’n aros am broses weinyddol â llaw ddiangen, a diweddu ymholiadau annifyr y gellir eu datrys yn llawer cynharach. Mae hyn yn gyfystyr â thua 150 o bobl yn gweithio amser llawn am flwyddyn.

Meddai Mark Gray, Prif Swyddog Trawsnewid a Thechnoleg

Dyma garreg filltir allweddol arall wrth wella’n gwasanaeth cwsmeriaid a’n hamseroedd prosesu. Trwy atal gwallau ymlaen llaw, awtomeiddio tasgau arferol a dileu gohebiaeth ddiangen, byddwn yn arbed amser i’n cwsmeriaid a’n gweithwyr cais fel ei gilydd. A’r cam nesaf yn unig o ran moderneiddio ac awtomeiddio mwy o’n gwaith yw hyn – mae llawer mwy i ddod.

Mae Cofrestrfa Tir EF yn canolbwyntio ar wallau gweinyddol hawdd eu hosgoi i arbed amser cwsmeriaid ond hefyd i alluogi awtomeiddio prosesau Cofrestrfa Tir EF ymhellach – gan ddileu gwaith gweinyddol sy’n cymryd llawer o amser a gwella cyflymder gwasanaeth cyffredinol.

Bydd y sefydliad yn parhau i wella’r gwasanaeth cofrestru trwy gyflwyno gwiriadau pellach ar y data sydd wedi ei gynnwys mewn gweithredoedd trosglwyddo ac arwystlon ddiwedd 2026.

Darllenwch y rhestr lawn o wiriadau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2025