Datganiad i'r wasg

Trwyddedau gyrru sydd wedi dod i ben yn cael eu hestyn yn awtomatig o 11 mis

Mae trwyddedau cerdyn-llun neu hawl i yrru sy’n dod i ben rhwng 1 Chwefror a 31 Rhagfyr 2020 wedi cael eu hestyn am 11 mis o’r dyddiad dod i ben.

Photocard driving licence

O dan y newidiadau, bydd gyrwyr y mae eu trwydded yrru cerdyn-llun neu hawl i yrru’n dod i ben rhwng 1 Chwefror 2020 a 31 Rhagfyr 2020 yn cael estyn eu hawl yn awtomatig o’r dyddiad y daw i ben, am gyfnod o 11 mis. Nid oes angen i yrwyr wneud cais i adnewyddu’u trwydded hyd y byddant yn derbyn nodyn atgoffa cyn i’w hestyniad ddod i ben.

Daeth yr estyniad cychwynnol i ben ar ddiwedd Awst. Mae hyn wedi cael ei estyn yn awr o dan newidiadau dros dro a gyhoeddwyd gan DVLA heddiw (1 Medi 2020).

Dywedodd Prif Weithredwraig DVLA Julie Lennard

“Mae gallu gyrru yn achubiaeth i filiynau o bobl a bydd yr estyniad ychwanegol hwn yn sicrhau yn yr amseroedd ansicr parhaol hyn, nad oes angen i yrwyr bryderu am weinyddu na’r costau cysylltiedig ag adnewyddu’u trwyddedau. Mae’r estyniad dros dro yn awtomatig, ac nid oes angen i yrwyr wneud unrhyw beth. Mae gyrwyr sydd wedi gwneud cais yn barod i adnewyddu’u trwydded yrru cerdyn-llun neu hawl i yrru yn gallu parhau i yrru tra’n bod ni’n prosesu’r cais, ar yr amod nad yw eu meddyg neu optegydd wedi dweud wrthynt na ddylent yrru.”

Nodiadau i olygyddion:

Daeth yr estyniad cychwynnol o’r Undeb Ewropeaidd i ben ar ddiwedd Awst ac rydym yn awr wedi cytuno ar estyniad ychwanegol â’r Undeb Ewropeaidd hyd ddiwedd Rhagfyr.

Mae’r estyniad dim ond yn gymwys i drwyddedau gyrru llawn, nid trwyddedau gyrru dros dro.

Os yw gyrrwr yn gwneud cais i DVLA i adnewyddu’i drwydded cerdyn-llun neu ei hawl, mae’n gallu parhau i yrru tra bo DVLA yn ystyried ei gais, ar yr amod nad yw ei feddyg neu optegydd wedi dweud wrtho na ddylai yrru. Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael yma.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i’r holl yrwyr sicrhau eu bod yn ateb y safonau meddygol ar gyfer cymhwyster i yrru wrth yrru bob amser. Mae gwybodaeth am yrru â chyflwr meddygol ar gael ar GOV.UK.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 September 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 September 2020 + show all updates
  1. Small update to notes to editors to add clarity around affected licences.

  2. Added Welsh translation

  3. First published.