Datganiad i'r wasg

Lansio prosiect cyntaf Cynllun Twf Gogledd Cymru at brifysgol

Mae’r Canolfan Prosesu Signalau Digidol (DSP) yn un o sawl prosiect sy’n derbyn cyllid o’r Cynllun.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Mae’r Cynllun Twf Gogledd Cymru gwerth £1bn wedi creu hanes wrth lansio’r cyfleusterau newydd Canolfan Prosesu Signalau Digidol (DSP) Prifysgol Bangor.

Mae technoleg yn y Ganolfan DSP yn rheoli’r ffordd y caiff signalau digidol eu trawsyrru, gan wella’r ffordd mae signalau yn cael eu prosesu a’u derbyn, ac yn eu gwneud yn fwy diogel a chost effeithiol.

Mae cyllid y Cynllun Twf o £3 miliwn wedi galluogi’r Ganolfan DSP i gaffael offer newydd i wneud ymchwil flaengar yn y maes cyfathrebu digidol. Bydd y cyllid yn datblygu atebion i gefnogi gofynion digidol y dyfodol, gan fod o fudd i fusnesau a thrigolion gyda galluoedd cyfathrebu gwell megis 5G a 6G.

Gellir defnyddio’r offer diweddaraf hefyd i hybu datblygiad prototeipiau newydd; mae enghreifftiau’n cynnwys cymwysiadau fel gwell diogelwch (cysylltiad amgryptio/dad-amgryptio i wella diogelwch digidol) a synhwyro amgylcheddol (gan nodi newid yn yr amgylchedd allanol trwy drawsyrru fideo). Bydd hyn yn rhoi defnydd mwy cost effeithiol, mwy diogel a mwy effeithlon o’u cymwysiadau i fusnesau a chymunedau sy’n defnyddio’r dechnoleg DSP.

Cafodd y digwyddiad lansio ei nodi gydag ymweliad gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS ac Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, David TC Davies MP.

Dywed David TC Davies MP, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru:

Rwy’n falch iawn o weld Cynllun Twf Gogledd Cymru yn gwneud cynnydd gwych. Bydd yn dod â buddsoddiad a swyddi sylweddol ac yn help i drawsnewid economi Gogledd Cymru. Ochr yn ochr â’r £120m sydd wedi’i ymrwymo i Gynllun Twf Gogledd Cymru, mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi cynlluniau twf ar gyfer pob rhan o Gymru gyda channoedd o filiynau yn fwy o arian. Gan weithio law yn llaw â’n partneriaid, bydd y cynlluniau hyn yn rhyddhau potensial llawn ein cymunedau.

Wrth i Gynllun Twf Gogledd Cymru nodi’r garreg filltir hon, rwy’n edrych ymlaen at weld llawer mwy o brosiectau’n dwyn ffrwyth ar draws y rhanbarth a ledled Cymru yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

Dywed Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyrraedd pwynt ble byddwn ni’n gweld prosiect cyntaf y Cynllun Twf yn cael ei wireddu. Mae’n addas ei fod yn un o’r sectorau sy’n tyfu cyflymaf, wrth i ni edrych ar hyrwyddo ymchwil ac arloesi yn y maes, yn ogystal â gwella cysylltedd digidol ar draws y rhanbarth. Bydd y prosiect yn allweddol hefyd wrth i ni fynd i’r afael â’r bwlch digidol yng Ngogledd Cymru, yn arbennig felly ardaloedd gwledig sydd angen gwell cysylltedd.

Gyda’r datblygiadau technolegol byd-eang pwysig yma, mae’r Ganolfan DSP wir yn rhoi Gogledd Cymru ar y map yn y sector cyffrous yma. Mae’r tîm eisoes yn gweithio gyda busnesau rhyngwladol ac enwau mawr yn y diwydiant gan gynnwys Ciena, Orange, Fujitsu a BT. Ond, maen nhw hefyd yn gweithio gyda busnesau llai yn y rhanbarth, gan ddarparu mynediad at gyfarpar sy’n helpu i ddatblygu sgiliau lleol.

Diwedd

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 July 2022