Trafodaethau adeiladol yng Nghaerdydd yn galonogol yn ôl y Prif Ysgrifennydd
Sylwadau'r Prif Ysgrifennydd Gwladol Damian Green AS yn dilyn trafodaethau gyda'r Ysgrifennydd Gwladol Alun Cairns AS ac Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones
Dywedodd y Prif Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green AS, fod natur adeiladol y rownd ddiweddaraf o drafodaethau Brexit gyda Phrif Weinidog Cymru yng Nghaerdydd heddiw wedi bod yn galonogol.
Roedd yn siarad ar ôl y trafodaethau dwyochrog diweddaraf yng Nghaerdydd gydag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns AS a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC a’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford AC.
Dywedodd Mr Green fod y cyfarfod gyda Carwyn Jones wedi galluogi’r ddwy lywodraeth i symud ymlaen i sicrhau bod pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn barod ar gyfer y cyfnod pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Cynhelir y trafodaethau er mwyn sicrhau bod y trefniadau angenrheidiol ar waith o dan y Bil Ymadael â’r UE ar gyfer dosbarthu pwerau a fydd yn cael eu dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd a chanfod lle bydd angen fframweithiau cyffredin.
Dywedodd y Prif Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green:
Rydyn ni bellach yn gwneud cynnydd go iawn o ran sicrhau bod pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn barod ar gyfer y pwerau ychwanegol a fydd yn dod yn ôl o’r Undeb Ewropeaidd i’r Deyrnas Unedig. Roedd y trafodaethau â Phrif Weinidog Cymru heddiw yn adeiladol iawn, ac rwy’n ddiolchgar iddo am hynny.
Mae pawb yn derbyn y bydd angen fframweithiau’r Deyrnas Unedig mewn meysydd penodol i warchod manteision hanfodol marchnad ddomestig y Deyrnas Unedig. Mae’r ddwy ochr yn edrych yn fanwl ar sut rydyn ni’n sicrhau bod y trefniadau gorau ar waith ar gyfer y diwrnod pan fyddwn ni’n gadael yr Undeb.
Rwy’n hyderus y gallwn ni gadw’r momentwm hwn a chael Cyd-bwyllgor Gweinidogion llwyddiannus gyda’r holl weinyddiaethau datganoledig yn Llundain y mis nesaf.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae ein trafodaethau heddiw wedi bod yn galonogol. Rydyn ni’n gwneud cynnydd da o ran nodi pa ddulliau gweithredu cyffredin fydd eu hangen arnom ni ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, yn unol â’r egwyddorion ar gyfer fframweithiau sydd wedi’u cytuno’n barod.
Rwy’n hyderus y bydd y broses hon yn arwain at fframweithiau y cytunwyd arnyn nhw yn y Deyrnas Unedig yn y meysydd lle mae eu hangen arnom, gyda chynnydd sylweddol mewn pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Roedd ein trafodaethau heddiw yn gosod y sylfaen ar gyfer trafodaethau dwys rhwng y ddwy lywodraeth hyd at y Nadolig ac i’r Flwyddyn Newydd.
Cyfarfu gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ym mis Medi, ac eto yn Llundain ar 11 Hydref, lle trafodwyd cyfres o egwyddorion i arwain y trafodaethau.
Cytunwyd ar yr egwyddorion hyn mewn cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ar 16 Hydref, a chafodd y Prif Weinidog a Phrif Weinidog Cymru gyfarfod adeiladol ar 30 Hydref.