Datganiad i'r wasg

Heddluoedd yng Nghymru i gael mwy o adnoddau yn y gymdogaeth i frwydro yn erbyn troseddu

Bydd pedwar heddlu Cymru yn cael eu cefnogi’n well gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i’w chenhadaeth i ddarparu strydoedd mwy diogel.

Welsh Secretary Jo Stevens at Cardiff Bay Police Station

Bydd pedwar heddlu Cymru yn cael eu cefnogi’n well gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i’w chenhadaeth i ddarparu strydoedd mwy diogel.

Cyfarfu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, â phrif gwnstabliaid pedwar heddlu Cymru a’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu am y tro cyntaf gyda’i gilydd yr wythnos diwethaf, ddeuddydd ar ôl i’r Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper gyhoeddi dros hanner biliwn o bunnoedd o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer plismona’r flwyddyn nesaf i gefnogi cenhadaeth Strydoedd Mwy Diogel y llywodraeth, gan gynnwys cynnydd yn y grant craidd ar gyfer heddluoedd ac adnoddau ychwanegol ar gyfer plismona cymdogaeth.

Bydd y diwygiadau’n adfer patrolau cymunedol gyda Gwarant Plismona Cymdogaeth, yn creu rôl bwysicach i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu er mwyn atal troseddu a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r llywodraeth hefyd wedi addo recriwtio 13,000 o heddlu cymdogaeth a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol, gan ddarparu adnoddau ychwanegol ar gyfer heddluoedd Cymru.

Ddydd Sadwrn (23 Tachwedd) ymunodd Ysgrifennydd Cymru â swyddogion Heddlu De Cymru ar batrôl yng Nghaerdydd yn dilyn gêm rygbi ryngwladol Cyfres yr Hydref Cymru v De Affrica yn y ddinas.

Gwelodd ystafell reoli’r heddlu yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd cyn ymuno â swyddogion o Dîm Plismona Cymdogaeth Heddlu De Cymru ar batrôl yng nghanol y ddinas yn ogystal â chwrdd â sefydliadau eraill sy’n gweithredu yno, gan gynnwys Bugeiliaid y Stryd Caerdydd.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:

Ymunais â’r Tîm Plismona Cymdogaeth yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn i ddeall yn well y materion maen nhw’n eu gweld ar y rheng flaen ac rwyf wedi siarad â’r holl brif gwnstabliaid a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru ac wedi clywed am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu.

Rydyn ni’n gwybod bod y cyhoedd eisiau gweld plismona cymdogaeth yn cael ei adfer ac y bydd ganddo adnoddau priodol i fynd i’r afael â throseddu.

Dyna beth fydd y llywodraeth hon yn ei gyflawni ac rydym eisoes wedi cyhoeddi y byddwn yn recriwtio 13,000 o swyddogion heddlu cymdogaeth a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i wneud hynny.

Gall swyddogion a’r cyhoedd yng Nghymru fod yn glir y bydd Llywodraeth y DU yn cyflawni gwelliannau ar draws ein system plismona a chyfiawnder a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Joanna Maal:

Rydym yn falch bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi manteisio ar y cyfle i weld drosti’i hun beth yw maint a chymhlethdod plismona ein prifddinas ar ddiwrnod prysur gêm ryngwladol.

Mae Caerdydd yn cynnal digwyddiadau mawr gydol y flwyddyn, gan gynnwys digwyddiadau chwaraeon a cherddoriaeth uchel eu proffil, ac rydym yn falch o chwarae ein rhan i gadw ymwelwyr yn ddiogel.

Fodd bynnag, mae’n rhaid gwneud hyn yn ogystal â’r gofynion sylweddol sy’n gysylltiedig â phlismona’r ddinas ehangach a chymunedau De Cymru.

Bydd cynlluniau gwario manwl ar gyfer heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ar gyfer  blwyddyn ariannol 2025-26 yn cael eu cadarnhau yn setliad cyllido’r heddlu ym mis Rhagfyr.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn un o 11 o heddluoedd y DU sy’n rhan o gynllun peilot rhaglen hyfforddi newydd ar gyfer swyddogion plismona cymdogaeth i wella safonau a chysondeb.   

Bydd y Llwybr Plismona Cymdogaeth yn helpu swyddogion i adeiladu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fynd i’r afael â’r problemau y mae cymunedau’n eu hwynebu bob dydd. Pan gaiff ei chyflwyno’n llawn, bydd y rhaglen hyfforddi ar gael i heddluoedd ledled y wlad i gofrestru unrhyw swyddog cymdogaeth neu Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu arni.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 November 2024