Datganiad i'r wasg

Y Llywodraeth yn mynd ymhellach ac yn gyflymach i ddod â thwf i Gymru

Mae’r Canghellor wedi ymrwymo i fynd ymhellach ac yn gyflymach i roi rhagor o arian ym mhocedi pobl sy’n gweithio ar hyd a lled Cymru.

HM Treasury

Bydd pobl sy’n gweithio a busnesau ar hyd a lled Cymru yn elwa ar ddiwygiadau i sbarduno buddsoddiad a gwaith adeiladu ym Mhrydain.

Mae’r Canghellor wedi ymrwymo i fynd ymhellach ac yn gyflymach i roi rhagor o arian ym mhocedi pobl sy’n gweithio ar hyd a lled Cymru, ac i gyflawni Cynllun ar gyfer Newid Llywodraeth y DU. 

Dyma’r buddion penodol i Gymru o ganlyniad i benderfyniadau’r Canghellor heddiw (29 Ionawr).

Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint

  • Ar ôl cadarnhau cyllid i’r rhaglen Parthau Buddsoddi yng Nghyllideb yr Hydref, mae’r llywodraeth nawr yn gallu cadarnhau y bydd Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint yn canolbwyntio ar weithgynhyrchu uwch.
  • Mae busnesau rhyngwladol mawr yn y rhanbarth, gan gynnwys JCB ac Airbus. Bydd y Parth Buddsoddi’n cefnogi’r rhain yn ogystal â’r gadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu uwch ehangach yn y rhanbarth. Ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r Parth Buddsoddi gynhyrchu £1bn o fuddsoddiad preifat, gan greu hyd at 6,000 o swyddi newydd o safon.
  • Bydd ymyriadau’r Parth Buddsoddi’n canolbwyntio’n bennaf ar y safleoedd hyn:
    • Glannau Dyfrdwy ac ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy – cartref Tata Steel a Toyota; 
    • Maes Awyr Penarlâg – cartref Airbus; 
    • Ystad ddiwydiannol Llai – cartref nifer o fusnesau awyrofod allweddol; 
    • Ystad ddiwydiannol Wrecsam – cartref amrywiaeth eang o fusnesau gweithgynhyrchu uwch, gan gynnwys JCB. 

Tanwydd Hedfan Cynaliadwy

  • Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi £63m yn y Gronfa Tanwyddau Arloesol yn 2025-26 a heddiw mae wedi amlinellu’r manylion o ran sut bydd yn cyflawni Mecanwaith Sicrwydd Refeniw i hybu buddsoddiad yn y diwydiant hwn sy’n tyfu. Bydd y mesurau hyn yn annog rhagor o fuddsoddwyr i gefnogi cynhyrchu yn y DU, gan greu swyddi da, medrus mewn ardaloedd fel de Cymru.

Cynlluniau Blaengar ar gyfer Anweithgarwch

  • Mae’n hollbwysig bod rhagor o bobl yn dychwelyd i’r gwaith er mwyn creu economi ddeinamig, ac er budd pobl ddi-waith. Mae dros naw miliwn o bobl yn anweithgar. O’u plith mae 2.8 miliwn yn ddi-waith oherwydd salwch hirdymor – y nifer mwyaf erioed. Mae’r system cymorth cyflogaeth wedi dyddio ac nid yw’n gallu ymateb i’r her gynyddol hon.
  • Rydyn ni wedi ymrwymo buddsoddiad o £240m ar gyfer 16 cynllun blaengar, gan gynnwys un i bob Awdurdod Cyfun â Maer ac un yng Nghymru i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol anweithgarwch. Bydd wyth yn cefnogi’r Warant Ieuenctid ac wyth yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anweithgarwch sy’n gysylltiedig ag iechyd.
  • Bydd y Cynlluniau Blaengar ar gyfer Anweithgarwch yn cael eu cyflawni ledled Cymru.

Cymorth gan y Gronfa Gyfoeth Genedlaethol

  • Mae’r llywodraeth yn dal wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Gyfoeth Genedlaethol i gynyddu’r cyfleoedd buddsoddi er mwyn sicrhau twf ar hyd a lled y DU.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:

Rydw i wrth fy modd ein bod yn bwrw ymlaen gyda’r Parth Buddsoddi ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint. Bydd y £160 miliwn gan Lywodraeth y DU yn sbarduno twf economaidd drwy weithgynhyrchu uwch.

Ym mis Rhagfyr fe wnes i gwrdd ag arweinwyr o’r sector gweithgynhyrchu uwch yn Toyota yng Nglannau Dyfrdwy, ac ymweld â dau fusnes cadwyn gyflenwi hynod lwyddiannus. Roeddwn i’n gallu gweld y potensial enfawr ar gyfer twf ac i adeiladu ar y talent a’r arbenigedd sydd eisoes yn bodoli yn y rhan hon o Gymru.

you “Bydd y Parth Buddsoddi’n rhoi hwb enfawr i dwf economaidd, yn creu hyd at 6,000 o swyddi newydd ac yn cynhyrchu £1bn o fuddsoddiad preifat a fydd yn cael effaith drawsnewidiol ar bobl sy’n byw ac yn gweithio yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Mae’r Canghellor hefyd yn adolygu canllawiau buddsoddi’r Trysorlys yn y Llyfr Gwyrdd i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu defnyddio i ddarparu cyngor gwrthrychol a thryloyw ynghylch buddsoddiadau cyhoeddus ledled y wlad, gan adrodd ar Gam 2 yr Adolygiad o Wariant.

Mae bwrw ymlaen â buddsoddiad a seilwaith strategol ym mhedair gwlad y DU yn rhan hollbwysig o Genhadaeth Twf Llywodraeth y DU. Byddai cynyddu cynhyrchiant dinasoedd mawr i’r cyfartaledd cenedlaethol yn sicrhau cynnyrch economaidd ychwanegol o £33bn, ac mae’r mesurau sydd wedi’u nodi heddiw yn mynd ymhellach na hyn i gychwyn degawd o adnewyddu cenedlaethol.

Megis dechrau yw hyn a bydd rhagor o gyhoeddiadau ynghylch twf rhanbarthol yn dilyn yn ystod y flwyddyn. Mae’r llywodraeth yn gwreiddio cynlluniau ar gyfer twf rhanbarthol yn yr Adolygiad o Wariant, mewn cynlluniau seilwaith a buddsoddi, ac yn y Strategaeth Ddiwydiannol. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod Cymru gyfan yn mwynhau manteision twf, gan gynnwys drwy weithio mewn partneriaeth ar y Strategaeth Ddiwydiannol i gefnogi cryfderau sylweddol Cymru mewn gwahanol sectorau.

Dywedodd Tim Knowles, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr FI Real Estate Management: 

A ninnau wedi buddsoddi yn Wrecsam am bron i 20 mlynedd, rydyn ni mor falch o weld y cyhoeddiad y bydd Wrecsam a Sir y Fflint yn cael statws Parth Buddsoddi Gweithgynhyrchu Uwch, ac y bydd tri o’n cynlluniau yn Ystad Ddiwydiannol Wrecsam – Wrexham 1M, Wrexham 152, a Chanolfan Bridgeway – yn rhan o’r parth dynodedig.

Ar draws y safleoedd hyn byddwn yn buddsoddi £115m i greu llety diwydiannol newydd o ansawdd uchel, i helpu i greu dros 1,000 o swyddi newydd ac i sicrhau gwerth economaidd bras o £1.2bn yn Wrecsam dros y 10 mlynedd nesaf.

Dyma garreg filltir bwysig i’r Gogledd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i fanteisio ar y cyfle hwn am fuddsoddiad strategol yn yr ardal, gan helpu i roi hwb a hanner i sector gweithgynhyrchu uwch y rhanbarth.

Ar y cyd ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ehangach, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn manteisio ar bob cyfle a ddaw o ganlyniad i hyn. Rydyn ni’n gwybod ers tro cymaint o botensial sydd gan y Gogledd i fod yn ganolbwynt arloesi llewyrchus, ac rydyn ni’n falch iawn y bydd ein datblygiadau ni’n gallu chwarae rhan bwysig yn y bennod nesaf yma.

Dywedodd Mark Turner, Prif Swyddog Gweithredu JCB:

Mae JCB wedi bod yn rhan amlwg o’r dirwedd ddiwydiannol ac economaidd yn Wrecsam a Sir y Fflint am fwy na 45 mlynedd. Arloesi yw hanfod ein busnes ac rydyn ni’n falch o weld Parth Buddsoddi’n cael ei greu yng ngogledd Cymru, ac yn gobeithio y bydd yn denu nifer o fusnesau eraill i’r ardal. Rydyn ni yma yn JCB Transmissions yn weithgynhyrchwr uwch o gydrannau peiriannu manwl, ac felly rydyn ni’n edrych ymlaen at weld busnesau gweithgynhyrchu uwch eraill yn yr ardal. Fe allai hyn fod yn gam enfawr at sicrhau cadernid cadwyn gyflenwi’r busnesau gweithgynhyrchu sydd yn yr ardal yn barod, fel JCB.

Mae sgiliau’n werthfawr iawn i ni yn ein busnes ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y Parth Buddsoddi’n helpu i ddatblygu sgiliau yn y dyfodol. Mae JCB yn parhau i fuddsoddi yn ein busnes yn Wrecsam ac mae cyhoeddiad heddiw ynghylch y Parth Buddsoddi yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol yr ardal.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Ionawr 2025