Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn rhoi gweithwyr wrth wraidd bargen newydd well ym Mhort Talbot

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi bargen newydd well i weithwyr ym Mhort Talbot, sydd wedi’i gytuno rhwng Tata Steel a’r Undebau Llafur.

  • Mae’r trafodaethau yn darparu gwell telerau colli swydd a phecyn sgiliau ar gyfer gweithwyr sydd eisiau ennill arian tra byddant yn ailhyfforddi
  • Mae Tata Steel yn ymrwymo i weithio gyda’r Llywodraeth y DU i werthuso cyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol
  • Y Llywodraeth i gyhoeddi Strategaeth Ddur y Gwanwyn nesaf, a ddatblygwyd gyda’r diwydiant, i sicrhau dyfodol disglair a chynaliadwy ar gyfer cynhyrchu dur yn y DU

Mae gweithwyr Port Talbot ar fin cael bargen well ar ôl trafodaethau cydweithredol rhwng Tata Steel a’r Undebau Llafur – gan nodi cyfnod newydd, aeddfed o ran cysylltiadau diwydiannol.  

Mae’r fargen newydd well yn mynd yn llawer pellach na chytundeb y llywodraeth flaenorol – gan ddarparu isafswm taliad colli swydd yn wirfoddol o £15,000 i weithwyr llawn amser ynghyd â thaliad ‘cadw’ o £5000 a chynnig hyfforddiant â thâl i roi incwm cyson i weithwyr a gwella eu sgiliau ar gyfer swyddi’r dyfodol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach, Jonathan Reynolds:

Mae Port Talbot wastad wedi bod, a bydd wastad yn, dref cynhyrchu dur. Mae’r fargen hon yn gwneud yr hyn y methodd bargeinion blaenorol ei wneud – rhoi gobaith i ddyfodol cynhyrchu dur yn Ne Cymru.

Mae dur yn sylfaenol i economi, sofraniaeth a chymunedau’r DU, ond mae diffyg gweithredu gan y llywodraeth yn y gorffennol wedi difetha’r diwydiant cynhyrchu dur. Dyna pam mae’r Llywodraeth hon yn cymryd camau cadarn drwy lunio bargen a strategaeth newydd a fydd yn gwrthdroi’r diwydiant segur ac yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer dyfodol disglair a chynaliadwy.  

Rydyn ni’n gwybod bod sicrhau dyfodol glanach a gwyrddach i gynhyrchu dur yn y DU yn hanfodol i sefydlogrwydd economaidd hirdymor y diwydiant. Nid yw’r ffordd o’n blaenau heb ei heriau ond bydd ein strategaeth ddur yn gosod gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer dyfodol y diwydiant, gyda chefnogaeth ein hymrwymiad maniffesto o fuddsoddiad o £3 biliwn gan y llywodraeth.

O dan y fargen newydd:

  • Ochr yn ochr â gwneud y buddsoddiad mwyaf yn niwydiant dur y DU ers degawdau, mae Tata Steel hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda’r llywodraeth i werthuso buddsoddiadau newydd i’r diwydiant dur.
  • Bydd Tata yn cynnig rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i staff sydd mewn perygl o golli eu swyddi’n orfodol fel dewis amgen, gan ddarparu cymwysterau cydnabyddedig mewn sgiliau y mae galw mawr amdanynt.
  • Bydd gweithwyr ar y rhaglen hyfforddi hon ar gyflog llawn am y mis cyntaf a £27,000 y flwyddyn am 11 mis yn dilyn hynny. Bydd y costau cyflog hyn yn cael eu hariannu gan Tata Steel, sydd hefyd yn rhagweld y bydd o leiaf 500 o swyddi newydd yn cael eu creu i gefnogi’r gwaith o adeiladu’r Ffwrnais Arc Drydan.
  • Bydd isafswm taliad colli swydd o £15,000 pro-rata ynghyd â thaliad ‘cadw’ o £5,000 yn cael ei dderbyn gan weithwyr sy’n gadael y busnes. Pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach yr angen i leihau colli swyddi’n orfodol lle bo modd, ac mae 2,000 o aelodau staff wedi mynegi diddordeb mewn colli swydd yn wirfoddol o dan y fargen hon.
  • Mae Tata wedi cynnig ei becyn colli swyddi’n wirfoddol mwyaf hael erioed ar gyfer ailstrwythuro o’r maint hwn. Bydd gweithwyr sy’n dewis colli eu swydd yn cael 2.8 wythnos o enillion am bob blwyddyn o wasanaeth, hyd at uchafswm o 25 mlynedd.

Ni ddaw’r fargen newydd ag unrhyw gost ychwanegol i drethdalwyr ac mae cyfraniad y llywodraeth at y gwaith adeiladu yn parhau i fod yn £500 miliwn. Bydd amodau llym o fewn y cytundeb cyllid grant yn sicrhau y gall y llywodraeth adennill buddsoddiad pe na bai Tata Steel yn cyflawni ei ymrwymiadau. Mae hyn yn cynnwys taliadau cosb uwch pe na bai’r cwmni’n cadw 5,000 o swyddi ar draws ei fusnes yn y DU ar ôl y trawsnewid.  

Mae dyfodol Port Talbot a’r sector dur yn flaenoriaeth a rennir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae’r llywodraeth yn mabwysiadu agwedd newydd at gysylltiadau â’r gwledydd a’r rhanbarthau – gan ailosod y berthynas â Llywodraeth Cymru i fod yn bartneriaeth agos a fydd yn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r diwydiant dur yng Nghymru.    

Bydd yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach hefyd yn cyhoeddi heddiw y bydd strategaeth newydd ar gyfer y sector dur yn cael ei chyhoeddi yng ngwanwyn 2025 ar ôl ymgynghori â’r diwydiant a rhanddeiliaid.   

Mae’n dilyn penderfyniad Tata ym mis Ionawr i gau’r ddwy ffwrnais chwyth ar ei safle ym Mhort Talbot, gan roi 2,800 o swyddi mewn perygl.   

Ddechrau mis Gorffennaf, bu amheuaeth ynghylch dyfodol y safle gan fod y fargen yn bygwth mynd ar chwâl yn ystod yr wythnos bleidleisio, a allai fod wedi arwain at ganlyniadau mwy difrifol i hyfywedd hirdymor y cwmni cyfan. Bydd yr aildrafod, a gyflawnwyd yn gyflym yn ystod deg wythnos gyntaf y llywodraeth, yn galluogi’r prosiect trawsnewid i fynd yn ei flaen.  

Dim ond dechrau uchelgeisiau’r llywodraeth ar gyfer y diwydiant yw’r cytundeb hwn gyda Tata Steel y cytunwyd arno ddydd Mawrth 10 Medi mewn cyfarfod rhwng y Prif Weinidog, yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach - Jonathan Reynolds, y Canghellor Rachel Reeves, a Chadeirydd Tata, Natarajan Chandrasekaran. Mae’n ddechrau dyfodol disglair sy’n harneisio diwydiant a datgarboneiddio fel pileri ar gyfer strategaeth hirdymor a chlir.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

Mae’r fargen well hon yn sicrhau dyfodol agos gwaith dur Port Talbot, yn gosod y sylfeini ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol, ac yn gwella amddiffyniadau i’r gweithlu ar draws De Cymru, a hynny oll heb gostau ychwanegol i’r trethdalwr.   

Yn ogystal â negodi bargen well na’r llywodraeth flaenorol, rydym eisoes wedi rhyddhau miliynau o bunnoedd o gyllid gan y Bwrdd Pontio i gefnogi busnesau a gweithwyr ym Mhort Talbot ac ar draws De Cymru.    

Tra bod hwn yn gyfnod anodd iawn i weithwyr Tata, eu teuluoedd a’r gymuned, mae’r llywodraeth hon yn benderfynol o gefnogi gweithwyr a busnesau yn ein diwydiant dur yng Nghymru, beth bynnag sy’n digwydd.

Gyda chymorth arbenigwyr annibynnol, bydd y llywodraeth yn adolygu hyfywedd technolegau ar gyfer cynhyrchu dur cynradd gan gynnwys Haearn Gostyngol Uniongyrchol (DRI). Bydd rhagor o wybodaeth am yr adolygiad yn dilyn maes o law.  

Mewn datganiad llafar yn Nhŷ’r Cyffredin mae disgwyl hefyd i’r Ysgrifennydd Busnes a Masnach ymrwymo i ddefnyddio’r Ddeddf Caffael newydd i helpu i sicrhau gwerth am arian, twf economaidd, a gwerth cymdeithasol drwy gaffael cyhoeddus, gan gynnwys ar gyfer y sector dur.

DIWEDD

Cefndir

  • Bydd £2.5 biliwn o fuddsoddiad gan y llywodraeth, yn ychwanegol at y £500 miliwn a ddyrannwyd i Bort Talbot, yn ailadeiladu’r diwydiant ac yn ei helpu i ddatgarboneiddio.
  • Fel rhan o’r cytundeb, bydd Tata Steel hefyd yn rhyddhau 385 erw o’u safle i’w ailddatblygu, tir gwerthfawr a fydd yn helpu i ddenu mwy o gwmnïau a chyflogwyr nid yn unig o’r sector dur ond o ystod eang o ddiwydiannau eraill.
  • Mae disgwyl i 500 o swyddi gael eu creu i adeiladu’r Ffwrnais Arc Trydan.
  • Mae Ffwrnais Arc Drydan yn defnyddio cerrynt trydan i doddi dur neu haearn sgrap a chynhyrchu dur, tra bod ffwrneisi chwyth yn defnyddio golosg, tanwydd carbon-ddwys a wneir o lo i gynhyrchu dur.
  • Bydd prosiect trawsnewid Tata Steel yn lleihau allyriadau CO2 cyffredinol y DU tua 1.5%.
  • Bydd y Strategaeth Ddur yn archwilio sut y gall y llywodraeth gynyddu capasiti a gallu dur yn y DU. Bydd yn nodi bylchau yn y galluoedd presennol, yn asesu’r galw am ddur yn y DU yn y dyfodol ac yn helpu i lywio penderfyniadau buddsoddi a fydd yn cefnogi twf economaidd.
  • Bydd Tata Steel yn gweithio gyda Llywodraeth EF i archwilio’r achos busnes dros gyfleoedd buddsoddi pellach mewn asedau sefydliadau uwch ac is, yn amodol ar ddichonoldeb.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 September 2024