GLlTEM yn adnewyddu deunyddiau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddiogelwch yn y llysoedd
Beth i’w ddisgwyl yn ystod archwiliad diogelwch wrth fynd i mewn i lysoedd a thribiwnlysoedd.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am fynd i mewn i’n hadeiladau, gweler ein tudalen Mynd drwy Ddiogelwch mewn adeilad llys neu dribiwnlys.
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM) wedi adnewyddu deunyddiau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddiogelwch yn y llysoedd fel rhan o ymdrech ehangach i roi gwybod i bobl am y gofynion wrth fynd i mewn i adeiladau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd.
Deunyddiau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddiogelwch yn y llysoedd
Mae’r deunyddiau amrywiol, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â chontractwyr diogelwch, yn cynnwys posteri mewn llysoedd, deunydd fideo a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r rhain wedi eu hanelu at bawb sy’n defnyddio’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith, y farnwriaeth a staff diogelwch.
Pwy fydd yn cael eu chwilio?
Mae archwiliadau diogelwch yn berthnasol i holl ddefnyddwyr y llysoedd a’r tribiwnlysoedd, yn cynnwys y bobl sy’n gweithio yno a defnyddwyr y gwasanaethau.
Mae rhai eithriadau; swyddogion heddlu sy’n gwisgo lifrai ac yn cario cerdyn gwarant er enghraifft, neu farnwyr sy’n eistedd yn achlysurol yn y llys ac sydd wedi cofrestru yno.
Rydym yn gweithio ar gynllun mynediad amgen ar gyfer gweithwyr proffesiynol cofrestredig ym maes y gyfraith, Mae’r gwaith o gyflwyno’r cynllun hwn yn genedlaethol yn mynd rhagddo ac fe’i cwblheir yn 2020.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 May 2019 + show all updates
-
Added translation
-
First published.