Hwngari yn cynnig cyfleoedd iFusnesau Cymru, meddai David Jones
Mae Hwngari yn cynnig cyfleoedd da i fusnesau Cymru, yn enwedig ym maes yr economi werdd, meddai David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru. Yn ystod…
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a37dabaed915d5a5f965fd7/s300_UKG_Logo__2_.png)
Mae Hwngari yn cynnig cyfleoedd da i fusnesau Cymru, yn enwedig ym maes yr economi werdd, meddai David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru.
Yn ystod ei ymweliad a Hwngari yn gynharach yn yr wythnos, cyfarfu Mr Jones ag aelodau Siambr Fasnach Prydain a staff Masnach a Buddsoddi y DU (UKTi) yn y Llysgenhadaeth, lle bu’n trafod sut y gellir gwella cysylltiadau masnach rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd Mr Jones: “Cefais gyfarfod adeiladol iawn a’r Siambr Fasnach a UKTi yn Budapest. Roedd ganddynt ddiddordeb penodol mewn datblygu diwydiant carbon isel yn Hwngari, a meithrin cysylltiadau a chwmniau o Gymru. Rwyf wedi cytuno i gynorthwyo mewn trafodaethau a’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd, gyda golwg ar edrych ar y potensial ar gyfer masnach rhwng cwmniau o Hwngari a chwmniau o Gymru.
“Rwy’n credu bod yna gyfleoedd cyffrous i gwmniau o Gymru sy’n awyddus i gynnal busnes yn Hwngari, yn enwedig i’r rheini sydd a diddordeb mewn cymryd rhan yn rhaglen adnewyddu seilwaith y wlad.
“Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda UKTi er mwyn gwneud yn siŵr bod potensial allforio Cymru yn cael ei ddatblygu i’r eithaf. Gall rhwydwaith swyddfeydd UKTi a’i gyrhaeddiad byd-eang helpu busnesau Cymru i gystadlu’n effeithiol yn yr hyn sydd nawr yn farchnad fyd-eang.
“Er mwyn datblygu twf economaidd, mae angen sicrhau cydweithrediad agos rhwng San Steffan a’r Gweinyddiaethau Datganoledig, ac mae’n rhaid i bob un o’r llywodraethau fynd ati o ddifri i weithio gyda’i gilydd. Rwy’n edrych ymlaen at weithio ar hyn gyda Llywodraeth Cymru er budd economi Cymru.”