Gwybodaeth bwysig i gwsmeriaid DVLA : gwasanaethau DVLA
Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol i systemau, ni fydd rhan fwyaf o’n gwasanaethau (gan gynnwys ein canolfan gyswllt) ar gael o 3pm ar ddydd Gwener 17 Awst tan 6am ar ddydd Llun 20 Awst (8am ar gyfer ein canolfan gyswllt).
Mae hyn yn golygu ni fyddwch yn gallu trethu eich cerbyd ar-lein, dros y ffôn neu mewn Swyddfa’r Post. Mae treth cerbyd ar gyfer y mis cyfan, felly os bydd eich treth yn dod i ben ar ddiwedd y mis hwn, bydd dal amser gennych i drethu eich cerbyd pan fydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau ar fore dydd Llun.
Nid yw pob gwasanaeth wedi ei effeithio a bydd dal modd i chi gweld a rhannu eich manylion trwydded yrru gyda thrydydd parti gan gynnwys cwmnïau llogi car. I osgoi unrhyw siom, mae’n well i gynhyrchu cod gwirio nawr oherwydd bydd y cod yn ddilys am 21 diwrnod. Gallwch hefyd adnewyddu eich trwydded yrru cerdyn-llun yn Swyddfa’r Post.
Cofiwch, mae yn erbyn y gyfraith i yrru cerbyd heb dreth ar y ffordd. Os ydych yn prynu car y penwythnos hwn, ni fyddwch yn gallu trethu’r cerbyd tan 6am ar ddydd Llun 20 Awst.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir. Dilynwch ni ar Twitter neu Facebook am y wybodaeth ddiweddaraf.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 August 2018 + show all updates
-
Added Welsh translation.
-
First published.