Stori newyddion

Gweithredu diwydiannol yn DVLA: Dydd Llun 14 Mehefin i ddydd Gwener 18 Mehefin

Y dyddiadau a drefnwyd ar gyfer gweithredu diwydiannol yn DVLA a sut y bydd yn effeithio ar brosesu ceisiadau papur.

Mae gweithredu diwydiannol wedi’i drefnu yn DVLA rhwng dydd Llun 14 Mehefin a dydd Gwener 18 Mehefin a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar wasanaeth DVLA. Bydd oedi wrth brosesu ceisiadau papur. Nid oes angen ffonio i holi am statws eich cais yn ystod y cyfnod hwn gan ein bod yn delio â phob cais papur cyn gynted â phosibl ac yn y drefn y cânt eu derbyn.

Mae ein gwasanaethau ar-lein ar gael a nhw yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf i ymdrin â ni. Am wybodaeth ac i gael mynediad at ein gwasanaethau, ewch i www.gov.uk/browse/driving

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 June 2021