Stori newyddion

Y Swyddfa Eiddo Deallusol yn Lansio Gwefan Ddwyeitihog yn Rhan o'i Hymrwymiad i'r Gymraeg

Bydd pobl sy'n ymweld â thudalen hafan a phrif dudalennau llywio'r Swyddfa Eiddo Deallusol ar GOV.UK yn gweld bod y rhain yn ddwyieithog bellach, wrth i'r Swyddfa Eiddo Deallusol gwblhau ei cham cyntaf o'i rhaglen waith i ddarparu ei gwybodaeth a'i gwasanaethau digidol yn Gymraeg.

Mae hyn yn rhan o ymrwymiad y Swyddfa Eiddo Deallusol o dan ei chynllun iaith Gymraeg i ddarparu cynifer o wasanaethau ag y bo modd yn y Gymraeg a’r Saesneg, er mwyn galluogi i gwsmeriaid ddefnyddio’r gwasanaethau hyn yn yr iaith a ddewisant. 

O ganlyniad i’r rhaglen gyfieithu, mae timau yn y Swyddfa Eiddo Deallusol – yn cynnwys staff sy’n siarad Cymraeg – wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) i greu cynnwys Cymraeg ar gyfer gwefan y Swyddfa Eiddo Deallusol.

Gan ddechrau gyda’r gwasanaeth ymgeisio am nodau masnach, bydd y Swyddfa Eiddo Deallusol yn canolbwyntio wedyn ar gyfieithu ei gwasanaethau mwyaf poblogaidd i’r Gymraeg, yn ogystal â’r cynnwys ar y wefan sy’n cael y nifer uchaf o ymweliadau.

 Mae’r broses o wneud cais am, adnewyddu neu ymchwilio cofrestriad patent, nod masnach neu ddyluniad yn mynd i fod yn gwbl ddigidol drwy gyfrwng y ‘Rhaglen drawsffurfio Un IPO’, felly bydd modd i’r cwsmeriaid sy’n defnyddio’r gwasanaethau ar-lein newydd hyn gwblhau eu trafodion yn y Gymraeg os dewisant.

Bydd y prosiect camau niferus hwn i gyfieithu ein gwasanaethau’n helpu ein cwsmeriaid Cymraeg i ddefnyddio’r system Eiddo Deallusol yn eu dewis iaith.

Cadwch lygad ar GOV.UK i gael diweddariadau pellach wrth i’r gwaith hwn fynd yn ei flaen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 September 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 September 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.