Datganiad i'r wasg

Jo Stevens AS wedi ei phenodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Mae Jo Stevens AS wedi ymgymryd â’i rôl fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dilyn ei phenodiad gan y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer.

Secretary of State for Wales Jo Stevens

Etholwyd Ms Stevens yn AS Dwyrain Caerdydd yn yr Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf 2024. Yn dilyn ei phenodiad, addawodd Ms Stevens fod yn llais cryf i Gymru yn Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig ac i weithio’n ddiflino ar ran Cymru a phobl Cymru.

Dywedodd Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’n fraint cael fy mhenodi i Swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a gwasanaethu yng Nghabinet cyntaf Keir Starmer, y Prif Weinidog.

Mae gan Gymru rôl hollbwysig i’w chwarae o ran sbarduno adfywiad cenedlaethol y Deyrnas Unedig, gan gyfrannu at ein diogelwch ynni a’r diwydiannau a fydd yn sicrhau dyfodol llewyrchus.

Fy mlaenoriaeth absoliwt yw cyflawni dros Gymru a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sefydlogi’r economi, sbarduno buddsoddiadau a chreu swyddi.

O ganlyniad i’n cynlluniau, bydd pobl ledled Cymru yn rhannu’r ffyniant hwnnw a byddwn yn mynd i’r afael ag amddifadedd a thlodi gyda’n gilydd.

Ychwanegodd Ms Stevens:

O dan fy arweiniad i, bydd Swyddfa Cymru unwaith eto yn eiriolwr cadarn dros Gymru o fewn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan sicrhau bod anghenion Cymru’n cael eu blaenoriaethu, a bod ei llais yn cael ei glywed. 

Rwy’n benderfynol o ailosod y berthynas rhwng y Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru. Byddwn yn cydweithredu ac yn cydweithio i sicrhau canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru.

Mae’n anrhydedd i mi wasanaethu Cymru a’i phobl a sicrhau’r newid y mae ein llywodraeth newydd wedi ei addo.

Mae Ms Stevens wedi dechrau rhaglen lawn o gyfarfodydd, sesiynau briffio ac ymweliadau i ddechrau cyflwyno agenda’r llywodraeth newydd ar gyfer Cymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 July 2024