Enillydd Kids Invent Stuff a Chystadleuaeth Taskmaster Education
Twb ymolchi eiconig Taskmaster wedi'i drawsnewid gan ddyfeisiwr saith oed mewn cystadleuaeth genedlaethol.

- Callie, saith oed o Fanceinion yn ennill Cystadleuaeth Kids Invent Stuff a Taskmaster Education a gefnogir gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO)
- Mae’r ddyfais fuddugol yn cyfuno offer dosbarthu tasgau gyda dosbarthwr hwyaden rwber arloesol
- Cyflwynodd dros 1,600 o ddyfeiswyr rhwng 4 ac 11 oed o bob rhan o’r DU atebion creadigol
- Mae’r achlysur i ddadorchuddio’r ddyfais yn cyd-fynd â dathliadau Wythnos Wyddoniaeth Prydain a bydd yn cael ei harddangos yn y digwyddiad Get Up to Speed gyda STEM yn ddiweddarach y mis hwn
Mae dyfeisiwr saith oed o Fanceinion wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol i helpu Little Alex Horne i ddod yn Gynorthwyydd gorau i’r Taskmaster. Mae dyfais fuddugol Callie, o’r enw ‘Task Firing Driveable Bath,’ yn trawsnewid twb ymolchi bob dydd yn beiriant dosbarthu tasgau arloesol.
Roedd y gystadleuaeth a gefnogir gan IPO yn gwahodd pobl ifanc i gyflwyno syniadau dyfeisio, gyda’r cysyniad buddugol i’w adeiladu mewn bywyd go iawn. Dewiswyd yr enillydd o blith mwy na 1,600 o geisiadau o bob rhan o’r DU, a chafwyd rhai ceisiadau o bob rhan o’r byd.

Line drawing by Callie showing Alex Horne sitting in a bathtub surrounded by papers representing tasks floating in the air and several rubber ducks.
Dywedodd Adam Williams, Prif Swyddog Gweithredol yr IPO:
Trwy’r gystadleuaeth hon, rydym wedi gweld creadigrwydd rhyfeddol gan feddyliau ifanc ledled y DU. Mae dyfais Callie yn cyfuno datrys problemau ymarferol gyda dychymyg chwareus - yr union fath o feddwl arloesol sy’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Little Alex Horne:
Mae’r ddyfais ryfeddol hon yn llwyddo i fod yn wych o ymarferol ac aruchel o wirion - y cyfuniad perffaith sy’n cynorthwyo Taskmaster! Fe wnes i fwynhau rhoi cynnig ar y twb ymolchi ac rwy’n meddwl y byddai’n bendant yn ffordd effeithiol o gadw ein cystadleuwyr Taskmaster ar flaenau eu traed. Gadewch i ni ei wynebu hyn - os na allwch chi ddal tasg yn cael ei saethu allan o dwb ymolchi symudol, ai deunydd cystadleuydd Taskmaster ydych chi mewn gwirionedd?
Dywedodd Ruth Amos, Dyfeisiwr a Chyfarwyddwr Kids Invent Stuff:
Rydym wedi cael amser gwych yn gweithio ar y prosiect hwn ochr yn ochr â’r IPO a Taskmaster Education! Mae wedi bod yn anhygoel gweld syniadau dyfeisgarmor greadigol a llawn dychymyg gan gynifer o bobl ifanc ledled y wlad. Mae dod â syniad yn fyw bob amser yn gyffrous, a gwnaeth gweithio gyda Little Alex Horne y profiad cyfan hyd yn oed yn fwy difyr ac atyniadol!
Dywedodd Dr Ali Struthers, Cyd-sylfaenydd Taskmaster Education:
Mae gan blant y dychymyg mwyaf disglair ac mae mor gyffrous i fod wedi bod yn rhan o’r broses hon o’r syniad i’r ddyfais! Mae gwylio’r ddyfais wych hon sy’n cynorthwyo’r Taskmaster yn dod yn fyw, a chael rhoi cynnig arni ein hunain, wedi bod yn gymaint o bleser. Mae Taskmaster Education wedi bod wrth ei fodd yn cydweithio a rhoi cyfle i bobl ifanc ddathlu eu creadigrwydd.
Gallwch chi wylio dyfais Callie yn cael ei hadeiladu ar sianel YouTube Kids Invent Stuff, gyda Little Alex Horne yn ei brofi yn nhŷ Taskmaster. Mae’r fideo yn cael ei lansio ochr yn ochr ag adnoddau addysgol rhad ac am ddim sydd wedi’u cynllunio i ysbrydoli a datblygu sgiliau yn y genhedlaeth nesaf o ddyfeiswyr.

Photograph of Alex Horne sitting in a custom-built bathtub invention, smiling at the camera. Ruth Amos, the inventor who built the bathtub, stands behind him also smiling.
Nodiadau i’r golygydd:
-
Mae Taskmaster Education yn addasu fformat Taskmaster Sianel 4 i greu profiadau difyr ac addysgiadol i blant a phobl ifanc. Yn y sioe, mae’r Taskmaster a’i gynorthwyydd Little Alex Horne yn herio digrifwyr gyda thasgau creadigol. Mae Taskmaster Education yn defnyddio gweithgareddau tebyg i ddatblygu sgiliau pwysig mewn plant. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys datrys problemau, gwaith tîm, a meddwl beirniadol. Mae Taskmaster Education yn darparu ffordd hyblyg a deniadol i ysbrydoli dysgu mewn ystafelloedd dosbarth a thu hwnt
-
Mae Kids Invent Stuff yn sianel YouTube arloesol sy’n dod â dyfeisiadau pobl ifanc yn fyw. Wedi’i sefydlu gan y peirianwyr Ruth a Shawn, mae Kids Invent Stuff yn cynnig cyfle i blant 4 i 11 oed weld eu syniadau creadigol yn cael eu troi’n realiti
-
Mae’r IPO wedi curadu rhestr chwarae Youtube yn arddangos y dyfeisiau anhygoel o gystadlaethau IPO a Kids Invent Stuff o’r gorffennol
-
Gall dyfeiswyr ifanc hefyd brofi’r greadigaeth yn bersonol yn ‘Get up to Speed with STEM 2025’ yng Nghanolfan Antur Gwyddoniaeth Magna, De Swydd Efrog, ar 19-20 Mawrth 2025
-
Mae’r IPO wedi datblygu offer, canllawiau ac adnoddau addysgu ar gyfer addysg gynradd, uwchradd, bellach ac uwch, ymchwilwyr a rheolwyr prifysgolion