Stori newyddion

Gwyddorau Bywyd yn hanfodol i roi hwb i dwf yng Nghymru, medd Ysgrifennydd Cymru

Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, wedi cyfarfod â ffigurau allweddol o’r sector gwyddorau bywyd yn y gyfres ddiweddaraf o gyfarfodydd bord gron i sbarduno twf economaidd.

Welsh Secretary Jo Stevens at TrakCel

Mae diwydiant Gwyddorau Bywyd Cymru yn hanfodol i sicrhau twf economaidd parhaus, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, wrth arweinwyr o’r diwydiant.

Mae’r sector hwn sy’n tyfu eisoes yn cyfrannu dros £2.6 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn ac mae’n cefnogi dros 12,000 o swyddi ar draws mwy na 250 o gwmnïau, yn ôl Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Mae Gwyddorau Bywyd yn cwmpasu ystod eang o fusnesau sy’n datblygu popeth o gynhyrchion gofal iechyd, fel cynhyrchion fferyllol neu ddyfeisiau meddygol, i gwmnïau sy’n defnyddio organebau byw i ddatrys heriau fel gwneud cnydau’n fwy gwydn i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd.

Cynhaliodd Ysgrifennydd Cymru drafodaeth gyda phobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau o sawl sefydliad arloesol ar ddydd Iau 16 Ionawr yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yng Nghaerdydd a dyma’r diweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd bwrdd crwn dan gadeiryddiaeth Jo Stevens fel rhan o’i hymgyrch i sicrhau twf economaidd i Gymru. Mae Ms Stevens eisoes wedi cwrdd ag arweinwyr o’r diwydiant Digidol a Thechnoleg, y sector Creadigol, a’r sector Gweithgynhyrchu Uwch yng Nghymru.

Ddiwedd 2024, lansiodd Ysgrifennydd Cymru Grŵp Cynghori Twf Economaidd Cymru i helpu i lywio ymdrechion Llywodraeth y DU i hybu twf a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.

Mae’r grŵp hefyd yn gweithio gydag Ysgrifennydd Cymru i lywio Strategaeth Ddiwydiannol newydd Llywodraeth y DU i roi hwb i ddiwydiannau allweddol yng Nghymru, ac i lywio blaenoriaethau Cymru ar gyfer yr Adolygiad nesaf o Wariant. Mae disgwyl y ddau beth hyn yn ystod gwanwyn 2025.

Yn ogystal â deall pwysigrwydd y sector Gwyddorau Bywyd i economi Cymru, dysgodd Ysgrifennydd Cymru hefyd am rywfaint o’r gwaith arloesol sy’n digwydd mewn meysydd sy’n cynnwys trin canser a genomeg.

Ymwelodd â TrakCel yng Nghaerdydd i ddysgu sut maen nhw’n defnyddio meddalwedd i hwyluso cadwyni cyflenwi therapi celloedd a genynnau cymhleth i drin clefydau fel canser a chlefyd y crymangelloedd, therapïau sy’n newid bywydau.

Yn Cardiff Edge, clwstwr Gwyddorau Bywyd ac Arloesedd yn Coryton, gwelodd Ms Stevens labordai clinigol ac ymchwil o’r radd flaenaf yng Nghanolfan Iechyd Genomig Cymru. Fe glywodd gan rai o arbenigwyr blaenllaw Cymru ym maes genomeg am sut mae eu gwaith yn cynyddu opsiynau i gleifion ac yn gwella eu gofal.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:

Rydw i’n canolbwyntio’n glir ar gyflawni Cynllun ar gyfer Newid Llywodraeth y DU a fydd yn rhoi hwb i’r economi ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl yng Nghymru.

Mae gennym sector Gwyddorau Bywyd sy’n tyfu ac yn ffynnu yng Nghymru, gan roi hwb enfawr i’n heconomi yn ogystal â chyfrannu ymchwil a thechnolegau sydd â’r potensial i newid bywydau pobl. 

Rydw i wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein cwmnïau arloesol i barhau i dyfu, creu gwaith sy’n talu’n dda a chyflawni canlyniadau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

Mae sector Gwyddorau Bywyd Cymru yn sbarduno arloesedd, yn cefnogi gweithlu medrus, ac yn meithrin cydweithrediadau cryf sy’n hybu twf economaidd.

A chanddi gyfleusterau o’r radd flaenaf ac amgylchedd cefnogol ar gyfer arloesi, Cymru yw’r lle delfrydol i arloeswyr byd-eang ffynnu.

Drwy ymchwil a thechnolegau datblygedig fel diagnosteg deallusrwydd artiffisial, mae busnesau yng Nghymru yn creu swyddi o ansawdd uchel, yn gwella canlyniadau gofal iechyd ac yn helpu i drawsnewid bywydau, tra maent hefyd yn cryfhau ein heconomi.

Dywedodd David Fluck, Cyfarwyddwr Gweithredol Meddygol, Gwyddor Bywyd a Meddygaeth Fanwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

Hoffem ddiolch i’r Ysgrifennydd Gwladol am ei hymweliad â Chanolfan Iechyd Genomig Cymru heddiw. 

Fel rhan o glwstwr ehangach o sefydliadau gwyddorau bywyd yn Cardiff Edge, mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y cyfleuster hwn yn chwarae rhan hollbwysig yng Nghymru i gryfhau eu safle ym maes meddygaeth fanwl.

Mae genomeg yn cyflwyno cyfleoedd arloesol i’r diwydiant gofal iechyd, ac edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith ochr yn ochr â’n partneriaid i wella gofal caf a lles y boblogaeth ehangach.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Ionawr 2025