Datganiad i'r wasg

Bydd trysorau lleol yng Nghymru yn cael eu hachub a’u hadfer

Bydd dros £2 filiwn yn cael ei roi i saith o lefydd lleol poblogaidd yng Nghymru gan gynnwys gan gynnwys canolfannau cymunedol, lleoliadau cerddoriaeth a chanolfannau hamdden

Seven Welsh projects receive over £2.1 million from latest round of the Community Ownership Fund.

  • Bydd saith trysor lleol yng Nghymru, gan gynnwys canolfannau cymunedol, lleoliadau cerddoriaeth a chanolfannau hamdden, yn cael eu hachub a’u hadfer diolch i gyllid wedi’i flaenoriaethu gan Lywodraeth y DU 
  • Bydd cyllid Llywodraeth y DU yn diogelu amwynderau lleol sy’n cadw cymunedau i ffynnu, gan helpu i osod sylfeini ein cymunedau fel rhan o’r Cynllun ar gyfer Newid 
  • Bydd hyn yn helpu i sbarduno twf economaidd ac ailadeiladu Prydain mewn degawd o waith adnewyddu

Bydd dros £2 filiwn yn cael ei roi i 7 o lefydd lleol poblogaidd yng Nghymru, er mwyn iddyn nhw allu aros ar agor i sicrhau bod eu cymunedau’n parhau i ffynnu. 

Mae hyn yn cynnwys £1 miliwn i arbed 4 lle yng Nghymru, gan gynnwys Tafarn y Plu yng Ngwynedd, lleoliad cerddoriaeth The Bunkhouse yn Abertawe, amgueddfa ym Mhowys a siop gymunedol yng Ngwynedd. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu a sicrhau dyfodol pob un o’r adeiladau hyn, gan eu galluogi i gynnig rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau a gweithgareddau gan gynnwys cerddoriaeth fyw, sesiynau llesiant a chyfleoedd addysgol. 

Fel y nodir yn y Cynllun ar gyfer Newid, mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sbarduno twf economaidd a chodi safonau byw. Mae cymunedau sy’n ffynnu wrth galon economi ffyniannus, a bydd y gefnogaeth a ddarperir gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn rhoi cyllid lle mae ei angen fwyaf, gan wneud i newid ddigwydd a dod â phobl at ei gilydd yn y broses.  

Bydd y swm uchaf yng Nghymru, sef £400 mil, hefyd yn mynd i arbed gorsaf Rheilffordd Ysgafn Llanfair ac amgueddfa ceir model Cloverlands. Bydd y prosiect hwn yn cynnal amgueddfa, archifau a man cymunedol a rennir i drigolion ac ymwelwyr ei ddefnyddio. Bydd y cyllid yn caniatáu i’r adeilad cymunedol ddarparu canolfan ymwelwyr lle bydd teithiau’n dysgu’r cyd-destun i’r orsaf reilffordd a’i gweithrediadau.  

Dywedodd Alex Norris, y Gweinidog dros Dwf Lleol: 

Mae’r rhain i gyd yn fannau aml-swyddogaeth sy’n gwneud cymaint i bobl leol a bydd gan y rhan fwyaf ohonom atgofion melys mewn lleoedd gwerthfawr fel y rhain. 

Rydyn ni wedi blaenoriaethu’r grantiau hyn i helpu i ddiogelu ac uwchraddio’r hyn mae’r lleoedd hanfodol hyn yn ei gynnig i’w cymunedau – boed hynny’n gwella mynediad at chwaraeon, mynd i’r afael ag unigrwydd neu hybu gwasanaethau teuluol i rieni a phlant.”  

Mae’r prosiectau a fydd yn derbyn arian yng Nghymru hefyd yn cynnwys: 

  • £300,000 i adnewyddu Canolfan Gymunedol Eveswell yng Nghasnewydd. Bydd y ganolfan yn cynnig cyfleusterau newydd a gwell i deuluoedd lleol gynnal mwy o weithgareddau fel grwpiau teulu, grwpiau chwarae, clwb Lego, dosbarthiadau crefft a grwpiau ieuenctid ar ôl ysgol. 
  • £300,000 i adnewyddu clwb Pentre Comrades. Bydd yr adeilad wedi’i drawsnewid yn cynnig canolbwynt i’r gymuned ar gyfer cymdeithasu a dysgu gyda chyfleusterau gan gynnwys tafarn, siop, caffi, gardd gymunedol a cheginau. 
  • £299,000 i adnewyddu Clwb Rygbi Caerffili. Bydd gan y gofod gyfleusterau newydd a gwell ar gyfer eu rhaglenni datblygu rygbi yn ogystal â lle i gynnal digwyddiadau codi arian, gwyliau lleol a gweithdai addysgol. 

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru: 

Llongyfarchiadau i’r prosiectau cymunedol gwych hyn yng Nghymru. Mae dros £2 filiwn yn cael ei wario gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod y lleoedd arbennig hyn yn cael eu hadnewyddu a’u gwella er mwyn iddyn nhw allu cynnig cyfleusterau i bobl leol ddod at ei gilydd. 

Mae pobl wych ym mhob cwr o Gymru sy’n rhoi yn ôl i’w cymunedau. Hoffwn ddiolch iddyn nhw am bopeth maen nhw’n ei wneud, ac mae Llywodraeth y DU yn falch o allu eu cefnogi.”  

Bydd y cyllid hwn ledled y DU sy’n cael ei flaenoriaethu gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn helpu i ddiogelu’r mannau hyn rhag cael eu cau a mynd yn adfeilion, gan ddiogelu mannau poblogaidd ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr. 

Dyfarnwyd cyfanswm o £36 miliwn i 85 o brosiectau ledled y DU.  

Bydd y prosiectau’n cefnogi’r llywodraeth ar ei llwybr tuag at adnewyddu cenedlaethol drwy ei chenadaethau yn y Cynllun ar gyfer Newid - o chwalu rhwystrau i gyfleoedd i sbarduno twf economaidd a chreu strydoedd mwy diogel drwy adfer balchder cymunedol. 

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Roedd y prosiectau hyn yn ymgeiswyr ar gyfer y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol sydd wedi cau erbyn hyn. 
  • Mae’r llywodraeth yn dal wedi ymrwymo i’r sector cymunedau a grymuso cymunedau.  
  • Bydd y llywodraeth yn cyflawni ei hymrwymiad yn ei maniffesto i ddisodli’r ‘Hawl i Gynnig’ cymunedol ag Asedau ‘Hawl i Brynu’ cryfach o Werth Cymunedol, gan greu llwybr mwy cadarn at berchnogaeth asedau cymunedol. Bydd hefyd yn cefnogi’r stryd fawr drwy gryfhau Ardaloedd Gwella Busnes sydd wedi helpu i wella canol trefi a dinasoedd ledled y Deyrnas Unedig am 20 mlynedd, gan sicrhau eu bod yn gweithredu i safonau uchel ac yn atebol i’w cymunedau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Rhagfyr 2024