Yr Arglwydd Bourne yn gweld diwydiant awyrofod llewyrchus Cymru ar waith
Yr Arglwydd Bourne yn gweld diwydiant awyrofod llewyrchus Cymru ar waith
Heddiw, canmolodd yr Arglwydd Bourne arbenigedd Cymru yn y diwydiant awyrofod wrth i Weinidog Swyddfa Cymru fynd ar daith o amgylch Sioe Awyr Ryngwladol enwog Farnborough.
Cyfarfu’r Arglwydd Bourne â swyddogion o gwmnïau fel GE Aviation, Airbus, Magellan a Raytheon ynghyd â chynrychiolwyr o gyflenwyr llai.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru: “Mae’r awyrofod yn cynnal miloedd o swyddi yng Nghymru, o’r adenydd a gynhyrchir gan Airbus i systemau radar.
“Yr wythnos hon mae Airbus wedi cael archebion newydd pwysig gan Virgin Airways a’r cwmni o India, Go Air*. Mae llyfrau archebion prysur yn dangos bod Cymru ar agor i fusnes a chanddi gwmnïau sy’n darparu swyddi medrus iawn.
“Mae Cymru yn lle perffaith i fuddsoddi oherwydd ein gweithlu medrus, y rhwydwaith o gyflenwyr sydd wedi hen ennill eu plwyf ym maes hedfan, a Llywodraeth y DU sy’n benderfynol o helpu i sicrhau llwyddiant. Does dim terfyn ar beth all y diwydiant hwn ei gyflawni yng Nghymru.”
Gwelodd yr Arglwydd Bourne dros ei hun y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg awyrennau yn ardal arloesi’r sioe, a gwyliodd arddangosfa awyr.
Ddydd Llun yr wythnos hon, bu David Cameron, y cyn Brif Weinidog yn ymweld â’r sioe awyr, a nododd mai awyrofod yw un o “brif gryfderau’r” economi.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 July 2016 + show all updates
-
Added translation
-
First published.