Bydd cysylltiadau Ysgol Rheolaeth yn helpu i annog Cenhedlaeth newydd i greu ffyniant economaidd yng Nghymru
[](http://www.swyddfa.cymru.gov.uk/files/2011/04/CG-opens-UWIC-School-of-Management-080411.jpg) Heddiw, (dydd Gwener 8fed Chwefror 2011), roedd…
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/default_news_organisation_image_data/file/203/s300_UKG_Logo__2_.png)
Heddiw, (dydd Gwener 8fed Chwefror 2011), roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn ol yn Llandaf lle cafodd ei geni a’i magu, ond ar drywydd busnes swyddogol y tro hwn - i agor adeilad Ysgol Rheolaeth newydd yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC).
Roedd Mrs Gillan yn annerch cynulleidfa o arweinwyr busnes ac academyddion ac yn pwysleisio’r cysylltiadau cryf rhwng addysg a busnes yn UWIC, yn ogystal a buddsoddiad economaidd, mentergarwch a thwf, cyn dadorchuddio plac i ddathlu agor yr adeilad newydd yng nghampws Llandaf.
Mae’r cyfleuster newydd yn cael ei noddi gan fusnesau fel Admiral, Paramount, Deloitte, ACCA, John Lewis a BT, yn ogystal a sefydliadau lleol fel Gofal Iechyd y Fro, y Cardiff Devils ac Undeb Credyd Caerdydd. Byddant hefyd yn darparu darlithwyr gwadd a lleoliadau gwaith o safon uchel i fyfyrwyr yn yr Ysgol Rheolaeth.
Dywedodd Mrs Gillan: “Drwy gydweithio, rwy’n siŵr y bydd yr Ysgol Rheolaeth newydd hon a’i phartneriaid busnes, yn helpu i annog cenhedlaeth newydd i greu ffyniant economaidd yng Nghymru. Mae’r amrywiaeth o gwmniau a sefydliadau lleol sydd wedi gweithio gydag UWIC i greu’r cyfleuster Ysgol Rheolaeth newydd hon yn drawiadol ac yn amrywiol, ac yn dangos bod UWIC mewn sefyllfa dda i ddarparu addysg yn y 21ain ganrif.
“Bydd y partneriaethau hyn yn ehangu’r cyfleoedd astudio a phrofiad gwaith ar gyfer myfyrwyr rheolaeth yma yng Nghaerdydd, ac yn helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf a fydd yn creu ffyniant economaidd yng Nghymru.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru: “Mae UWIC eisoes wedi mwynhau cysylltiadau cryf a’r gymuned fusnes leol ers dros 15 mlynedd, gan weithio’n agos ochr yn ochr a dros 6,000 o fudiadau ledled Cymru, a helpu i ddatblygu dros 500 o eitemau, o greu cynnyrch i’w lansio yn y farchnad. Mae hon yn enghraifft ardderchog o gydweithio rhwng busnesau ac addysg, a gwn y bydd y cyfleusterau newydd hyn yn parhau i adeiladu ar y cysylltiadau hyn.
“O noddi ystafelloedd addysgu a theatrau darlithio, i ddarparu siaradwyr gwadd a lleoliadau gwaith, mae partneriaid busnes mawr UWIC, megis Paramount, Admiral, Deloitte a BT, yn ogystal a phartneriaid lleol fel Gofal Iechyd y Fro ac Undeb Credyd Caerdydd, yn chwarae eu rhan i sicrhau bod myfyrwyr yma yng Nghaerdydd mewn sefyllfa dda i ddod yn entrepreneuriaid, yn arweinwyr busnes, ac yn rheolwyr y dyfodol.
Bydd adeilad Ysgol Rheolaeth UWIC yn darparu cyfleusterau ar gyfer 160 o saff a 2000 o fyfyrwyr dros bedwar llawr. Mae hyn yn cynnwys dwy theatr ddarlithio fawr gyda systemau clyweledol, tair theatr ddarlithio sy’n debyg i rai Harvard, mannau trafod, amrywiaeth o ardaloedd dysgu ac addysgu ffurfiol ac anffurfiol, ystafelloedd TG, caffi gyda gardd deras, cegin hyfforddi gydag offer priodol, bar a bwyty a chyfleusterau ymchwil a menter blaengar.