Data Tueddiadau'r Farchnad mis Mawrth 2016
Data Tueddiadau'r Farchnad y Gofrestrfa Tir ar gyfer prisiau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr.
Mae data mis Mawrth yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 6.7% sy’n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £189,901. Mae prisiau tai misol wedi gostwng 0.5% oddi ar fis Chwefror 2016.
Mae’r data rhanbarthol yn dangos mai:
- Llundain welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf gyda symudiad o 13.9%
- Llundain a Dwyrain Lloegr welodd yr unig dwf misol gyda chynnydd o 0.2% ym mhob rhanbarth
- Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd yr unig ostyngiad prisiau blynyddol gyda symudiad o -0.7%
- Swydd Gaerefrog a’r Humber welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol gyda gostyngiad o 2.6%
Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol ar gyfer gwerthiannau ac adfeddiannau yn ystod mis Ionawr 2016 yn dangos:
- i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ostwng 5% i 54,254 o’i gymharu â 56,937 ym mis Ionawr 2015
- y bu cynnydd o 2% yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr i 938 o 916 flwyddyn yn gynharach
- i niferoedd yr adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr ostwng 51% i 322 o’i gymharu â 657 ym mis Ionawr 2015
- Llundain oedd y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf yn nifer y gwerthiannau adfeddiant gyda gostyngiad o 72% oddi ar fis Ionawr 2015
Mynediad i adroddiad llawn y Mynegai ar gyfer mis Mawrth.
Newid prisiau fesul rhanbarth
Rhanbarth | Newid misol oddi ar fis Chwefror 2016 | Newid blynyddol oddi ar fis Mawrth 2015 | Pris cyfartalog Mawrth 2016 |
---|---|---|---|
Llundain | 0.2% | 13.9% | £534,785 |
Dwyrain Lloegr | 0.2% | 10.7% | £220,989 |
Gogledd Orllewin Lloegr | -0.1% | 5.3% | £116,018 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | -0.3% | 5.7% | £140,219 |
De Ddwyrain Lloegr | -0.4% | 10.3% | £266,729 |
Cymru a Lloegr | -0.5% | 6.7% | £189,901 |
De Orllewin Lloegr | -0.9% | 5.8% | £197,085 |
Cymru | -0.9% | 3.5% | £122,221 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | -1.2% | -0.7% | £97,581 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | -2.0% | 3.1% | £140,528 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | -2.6% | 1.6% | £121,841 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo 2016 i 2015
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Mawrth 2016 | Mawrth 2015 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £300,464 | £280,077 | 7.3% |
Tŷ pâr | £178,746 | £168,446 | 6.1% |
Tŷ teras | £142,186 | £133,858 | 6.2% |
Fflat/Fflat deulawr | £184,656 | £171,833 | 7.5% |
Holl | £189,901 | £178,006 | 6.7% |
Nifer y gwerthiannau 2015 i 2014
Mis | Gwerthiannau 2015Cymru a Lloegr | Gwerthiannau 2014Cymru a Lloegr | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 56,937 | 65,275 | -13% |
Chwefror | 58,075 | 65,085 | -11% |
Mawrth | 65,614 | 67,423 | -3% |
Ebrill | 62,729 | 70,386 | -11% |
Mai | 72,513 | 77,620 | -7% |
Mehefin | 82,139 | 80,975 | 1% |
Gorffennaf | 90,416 | 84,781 | 7% |
Awst | 82,521 | 87,953 | -6% |
Medi | 80,232 | 78,941 | 2% |
Hydref | 88,362 | 86,495 | 2% |
Tachwedd | 77,973 | 73,317 | 6% |
Rhagfyr | 76,905 | 78,228 | -2% |
Cyfanswm | 894,416 | 916,479 | -2% |
Nifer y gwerthiannau 2016 i 2015
Mis | Gwerthiannau 2016Cymru a Lloegr | Gwerthiannau 2015Cymru a Lloegr | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 54,254 | 56,937 | -5% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth 2016 i 2015
Adfeddiannau fesul rhanbarth | Ionawr 2016 | Ionawr 2015 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr | 16 | 40 | -60% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 33 | 60 | -45% |
Llundain | 21 | 76 | -72% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 16 | 24 | -33% |
Gogledd Orllewin Lloegr | 75 | 151 | -50% |
De Ddwyrain Lloegr | 36 | 66 | -45% |
De Orllewin Lloegr | 21 | 42 | -50% |
Cymru | 35 | 59 | -41% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 27 | 49 | -45% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 42 | 90 | -53% |
Cymru a Lloegr | 322 | 657 | -51% |
Mynediad i Ddata Pris a Dalwyd mis Mawrth.
Nodiadau i olygyddion
-
Adroddiad Mynegai Prisiau Tai mis Mawrth yw’r olaf yn y gyfres hon. Fodd bynnag, bydd Data Pris a Dalwyd (DPD) yn parhau i gael ei gyhoeddi ar 20fed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir DPD mis Ebrill am 11yb ar ddydd Mawrth 31 Mai 2016.
-
Mae’r Mynegai yn cael ei ddisodli gan Fynegai Prisiau Tai y DU unigol. Cyhoeddir yr ystadegau newydd ar gyfer mis Ebrill 2016 am 9.30yb ar ddydd Mawrth 14 Mehefin, gan ddisodli’r mynegeion presennol a gyhoeddir ar wahân gan y Gofrestrfa Tir a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
-
Mae erthygl a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyflwyno cyfres amser hanesyddol ar gyfer y mynegai newydd, gan gymharu’r amcangyfrifon newydd o brisiau tai cyfartalog a thwf prisiau tai gydag amcangyfrifon presennol.
-
Mae calendr gyda dyddiadau rhyddhau’r prif ffigur a Mynegai newydd y DU ar gael.
-
Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995 yn amodol ar eithrio
-
Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am dros 20 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros 7 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
-
Mae’r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
-
Mae’r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i’r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy’n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi’r trafodion hyn, rydym yn tynnu’r wybodaeth pris a dalwyd o’r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
-
Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau’n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler data adfeddiannau i gael rhagor o wybodaeth.
-
Mae Tablau cefndir y Mynegai ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen gan beiriant fel data cysylltiedig. Maent ar gael i’w defnyddio a’i hail-ddefnyddio am ddim o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA).
-
Mae’r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i’w cofrestru yn ystod y mis hwnnw.
Mae’r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo: * cyfeiriad llawn * pris a dalwyd * dyddiad y trosglwyddiad * math o eiddo * ai adeilad newydd yw’r eiddo ai peidio * ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw’r eiddo -
Gellir llwytho Data Pris a Dalwyd i lawr ar ffurf txt, CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
-
Mae Data Pris a Dalwyd yn cynnwys Data Pris a Dalwyd Safonol (DPDS) ar gyfer gwerthiannau eiddo preswyl unigol am bris llawn y farchnad a Data Pris a Dalwyd Ychwanegol (DPDY) ar gyfer trafodion a eithriwyd cyn hynny o’r DPDS megis: * trosglwyddiadau i unigolyn nad yw’n unigolyn preifat, er enghraifft cwmni, corff corfforaethol neu fusnes * trosglwyddiadau o dan bŵer gwerthu (adfeddiannau) * trafodion prynu i osod (lle y gellir eu hadnabod gan forgais)
-
Bydd y wybodaeth sydd ar gael ar gyfer pob eiddo yn nodi a yw’n DPDY neu’n DPDS a statws y cofnod – ychwanegiad/newid/dilead (A/C/D).
-
Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio oddi ar 1990.
-
Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
-
I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.gov.uk/land-registry
-
Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov a @CofrestrfaTir, ein blog, LinkedIn a Facebook.
Cysylltu
Swyddfa'r wasg
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
E-bost HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk
Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565
Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344