Gweinidogion yn cwrdd ag allforwyr Gogledd Cymru
Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, James Davies, a’r Gweinidog Busnes a Masnach, Nigel Huddleston, wedi ymweld â busnesau ledled Gogledd Cymru.
Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, James Davies, a’r Gweinidog Busnes a Masnach, Nigel Huddleston, wedi ymweld â busnesau ledled Gogledd Cymru i ddysgu mwy am eu gwasanaethau a’r ffordd y maent yn allforio eu nwyddau, ac i dynnu sylw at sut y gallant fanteisio ar fargeinion masnach y DU gydag Awstralia a Seland Newydd ar ôl iddynt ddod i rym.
Ymysg y busnesau yr aethant i ymweld â nhw ar 23 Chwefror mae Fifth Wheel Company o Lanelwy, busnes bach a chanolig sy’n arbenigo mewn dylunio a gweithgynhyrchu carafanau moethus, ac Air Covers yn Wrecsam sy’n dylunio, yn gweithgynhyrchu, ac yn allforio gorchuddion awyrennau i fwy na 50 o wledydd. Mae’r ddau fusnes eisoes yn allforio eu cynnyrch i Awstralia a Seland Newydd, a gallent allforio mwy fyth pan ddaw’r cytundebau masnach i rym.
Roedd y cwmnïau eraill yn cynnwys Halen Môn, cynhyrchydd halen môr ar Ynys Môn, sy’n allforio ei gynnyrch i fwy na 22 o wledydd ledled y byd, gan gynnwys De Korea, yr Unol Daleithiau, yr Emiradau Arabaidd Unedig a ledled Ewrop; a Silverlining Furniture yn Wrecsam, sy’n allforio 98% o’u cynnyrch.
Mae cytundebau masnach nodedig y DU gydag Awstralia a Seland Newydd yn gytundebau cynhwysfawr a modern, a fydd yn cael gwared ar dariffau ar yr holl gynnyrch sy’n cael eu hallforio o’r DU i Awstralia a Seland Newydd. Bydd hyn yn gwneud busnesau lleol ledled Cymru yn fwy cystadleuol yn y ddwy farchnad. Mae disgwyl i’r bargeinion ddod i rym eleni, a gallent roi hwb o £75 miliwn i economi Cymru.
Dywedodd Dr James Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru:
Mae gogledd Cymru yn gartref i gannoedd o fusnesau anhygoel, gyda llawer ohonynt yn allforio eu cynnyrch ledled y byd.
Roedd yn wych ymweld â rhai ohonynt, a chlywed sut gall Llywodraeth y DU greu rhagor o gyfleoedd i’w helpu i dyfu a dod â rhagor o swyddi a ffyniant i’n cymunedau.
Dywedodd Nigel Huddleston, Gweinidog Gwladol yr Adran Fusnes a Masnach:
Roedd hi’n wych dod i Gymru i weld teithiau allforio byd-eang ac ysbrydoledig busnesau lleol â’m llygaid fy hun, ac i ddysgu am y cynnyrch gwych a fydd yn elwa o’n bargeinion masnach arloesol ar ôl iddynt ddod i rym.
Bydd cael gwared ar dariffau o dan ein cytundebau gydag Awstralia a Seland Newydd yn help i fusnesau yng Nghymru – gan gynnwys y rhai rydw i wedi cael y pleser o ymweld â nhw – i allforio mwy, i gefnogi swyddi, ac i dyfu ein heconomi.
Byddwn yn annog busnesau ledled Cymru a gweddill y DU i fanteisio ar y cyfleoedd anhygoel sy’n cael eu creu.
Mae’r DU wedi negodi a llofnodi Cytundeb Masnach Rydd gydag Awstralia a fydd yn helpu i godi’r gwastad yn y DU, gan sicrhau manteision i drefi, dinasoedd ac ardaloedd gwledig ledled y wlad.
Mae disgwyl y bydd hyn yn arwain at gynnydd o 53% yn y masnachu gydag Awstralia, yn rhoi hwb o £2.3 biliwn i’r economi, ac yn ychwanegu £900 miliwn at gyflogau aelwydydd yn y tymor hir.
Mae disgwyl i Gytundeb Masnach Rydd roi hwb o tua £60 miliwn i economi Cymru. Roedd dros 450 o fusnesau yng Nghymru wedi allforio gwerth £110 miliwn o nwyddau i Awstralia yn 2020.
Cafodd y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd ei lofnodi ar 28 Chwefror 2022.
Ers Brexit, dyma ail gytundeb masnach y DU i’w negodi o’r newydd gyda gwlad y tu allan i’r UE. Gallai arwain at gynnydd o bron i 60% yn y masnachu gyda Seland Newydd, rhoi hwb o £800 miliwn i economi’r DU, ac ychwanegu £200 miliwn at gyflogau aelwydydd yn y tymor hir. Roedd dros 200 o fusnesau yng Nghymru wedi allforio gwerth £23 miliwn o nwyddau i Seland Newydd yn 2020.