Gweinidogion yn canmol y sector darlledu ffyniannus yng Nghymru
Heddiw, mae Gweinidogion wedi gweld a’u llygaid eu hunain yr hyder a’r uchelgais sy’n gyrru’r sector darlledu ffyniannus yng Nghymru, drwy…
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a37dabaed915d5a5f965fd7/s300_UKG_Logo__2_.png)
Heddiw, mae Gweinidogion wedi gweld a’u llygaid eu hunain yr hyder a’r uchelgais sy’n gyrru’r sector darlledu ffyniannus yng Nghymru, drwy gael cyfle i ymweld ag ystafelloedd newyddion HD a stiwdios rhai o brif ddramau teledu Prydain.
Cafodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, ac** Ed Vaizey AS, y Gweinidog Cyfathrebu,** gyfle heddiw i gyfarfod a rhai o uwch swyddogion ITV Cymru, BBC Cymru Wales, S4C a Boomerang i weld sut mae Cymru’n datblygu’n gyflym i fod yn fagned ac yn gatalydd ar gyfer talent greadigol, yn ogystal a’r cyfraniad pwysig mae’r diwydiant yn ei wneud i’r economi.
I ddechrau, cyfarfu’r Gweinidogion a Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV Cymru, yn eu pencadlys yng Nghroes Cwrlwys. Yno, cawsant eu tywys ar daith o amgylch y stiwdios a chael trafodaethau am gynlluniau’r darlledwr ar gyfer rhaglenni i’r dyfodol.
Yna, aethant ymlaen i gyfarfod a Huw Eurig Davies, sef prif swyddog gweithredol Boomerang Plus Plc, sy’n creu rhaglenni adloniant, rhaglenni ffeithiol, rhaglenni chwaraeon, rhaglenni cerddoriaeth, dramau a rhaglenni plant ar gyfer y teledu, y radio a’r we. Cawsant daith o amgylch y cyfleusterau ol-gynhyrchu a chyfle i drafod gallu’r sector annibynnol yng Nghymru i gyfrannu at economi Cymru, ac at ddelwedd Cymru yn rhyngwladol.
Yna, aeth y criw ymlaen i bencadlys S4C yn Llanisien i gwrdd ag Ian Jones, prif weithredwr newydd y darlledwr, a Huw Jones, y cadeirydd. Yma, aethant ar daith o amgylch stiwdio Clirlun (HD) y sianel. Hefyd, bachwyd ar y cyfle i drafod statws unigryw y sianel fel darlledwr Cymraeg, yn ogystal a’r ymgynghoriad cyhoeddus a lansiwyd yn ddiweddar ynghylch y trefniadau llywodraethu a gytunwyd rhwng S4C a’r BBC.
Yn olaf, cyfarfu Mr Jones a Mr Vaizey a Rhodri Talfan-Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, yn y stiwdios newydd ym Mhorth y Rhath ym Mae Caerdydd. Yma, cawsant eu tywys ar daith o amgylch y stiwdios HD-parod sydd bellach yn gartref parhaol a phwrpasol i bedwar drama flaenllaw y BBC - sef Casualty, Pobol y Cwm, Doctor Who ac Upstairs Downstairs - ac i gynyrchiadau newydd yn y dyfodol.
Dywedodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru:
“Rydym wedi ymrwymo i feithrin sector darlledu bywiog yma yng Nghymru - yn Gymraeg ac yn Saesneg - ac roeddwn yn falch o gael cyfle i gwrdd a rhai o’r bobl sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr o ran gyrru’r sector yn ei flaen.
“Mae’r diwydiannau creadigol yn sector allweddol yn economi Cymru, yn cyfrannu tua £750m ac yn cyflogi tua 24,000 o bobl. Roedd yn braf gweld y sgiliau gwych sydd gan Gymru i’w cynnig i waith cynhyrchu rhaglenni oriau brig yn ogystal a chael cyfle i drafod sut gallwn ni hybu hyn ymhellach.”
Dywedodd Ed Vaizey, y Gweinidog Cyfathrebu:
“Mae ymweliad heddiw wedi tynnu sylw at bwysigrwydd diwylliannol ac economaidd aruthrol y diwydiant darlledu yng Nghymru. Mae rhaglenni fel Doctor Who, sy’n boblogaidd bedwar ban byd, yn ein hatgoffa’n barhaus o’r rol y gall y diwydiannau creadigol ei chwarae wrth yrru twf drwy greu swyddi a denu buddsoddiad o’r tu allan.”