Modurwyr yn arbed cannoedd o filoedd o bunnau bob diwrnod ers diddymu tollau pont Hafren
Mae cymudwyr, twristiaid a busnesau yn cael budd o deithio i mewn i Gymru am ddim flwyddyn ar ôl diddymu’r doll
Heddiw [17 Rhagfyr] rydyn ni’n nodi blwyddyn ers diddymu’r tollau ar groesfannau Hafren a, gyda’i gilydd, mae modurwyr yn arbed cannoedd o filoedd o bunnau bob diwrnod wrth groesi’r afon. Mae pob gyrwyr yn arbed tua £365,000 y diwrnod, yn seiliedig ar y taliadau a oedd mewn grym pan ddiddymwyd y tollau.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU ddiddymu tollau ar groesfannau’r M4 a’r M48 i gyfeiriad y gorllewin ym mis Rhagfyr 2018 er mwyn ei gwneud yn haws teithio rhwng Cymru a de-orllewin Lloegr, gyda’r bwriad o roi hwb i fusnes, gwella mewnfuddsoddiad, cynyddu twristiaeth a chreu swyddi.
Ers diddymu’r tollau, mae nifer y teithiau i mewn i Gymru i Loegr dros Bont Tywysog Cymru wedi cynyddu 16% ac mae dros 39,000 o deithiau yn cael eu gwneud bob diwrnod.
Ar ôl i Lywodraeth y DU ddiddymu’r tollau, cafodd partneriaeth Porth y Gorllewin ei lansio’r mis diwethaf er mwyn manteisio i’r eithaf ar botensial de Cymru a de-orllewin Lloegr. Drwy gysylltu awdurdodau lleol, busnesau a phrifysgolion o fri ar draws y rhanbarth eang bob ochr i afon Hafren, bydd Porth y Gorllewin yn adlewyrchu gwaith llwyddiannus, sefydledig Pwerdy’r Gogledd ac Injan Canolbarth Lloegr, a bydd yn ceisio sicrhau bod y rhanbarth yn gystadleuol yn fyd-eang.
Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru:
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae gyrwyr wedi elwa o deithio i mewn i Gymru am ddim, ac mae hynny’n talu ar ei ganfed i fusnesau bob ochr i afon Hafren.
Rydyn ni wedi’n cysylltu â’n gilydd yn well yn economaidd o ganlyniad i hyn, a thrwy fenter Porth y Gorllewin, byddwn yn defnyddio cryfderau’r ddwy ardal hon, gan barchu ein hunaniaeth a’n traddodiadau unigryw ein hunain.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i roi hwb i gysylltedd a’r seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru, sy’n hollbwysig er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd economaidd ac yn rhoi hwb i’n cynhyrchiant o ganlyniad i hynny.