Stori newyddion

ADN yn addo £495,000 i gynorthwyo Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn

Y Prif Weithredwr, David Peattie, yn gwneud ymrwymiad yn ystod uwchgynhadledd y diwydiant niwclear yn Llangefni.

Anglesey: view of the harbour with boats and houses in the background

Anglesey

Mae’r ADN wedi cyhoeddi cymorth o £495,000 i helpu i gefnogi Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn y Cyngor Sir a chreu cyfleoedd economaidd newydd ar yr ynys.

Ymgasglodd tua 200 o ymwelwyr o bob rhan o’r DU a thramor yng Nghanolfan Adeiladu Coleg Menai yn Llangefni ar gyfer 3edd Uwchgynhadledd Rhanddeiliaid flynyddol yr ADN (Gorffennaf 9/10fed), ac yno rhannodd y Prif Weithredwr David Peattie ei ymrwymiad i gefnogi cymunedau sy’n byw yn agos at ei safleoedd.

Bydd y cyllid yn cyfrannu at becyn o fesurau i geisio rhoi hwb i weithgarwch busnes, y gadwyn gyflenwi a chyflogaeth, gan gynyddu twristiaeth, gwella trafnidiaeth a seilwaith ac adfywio’r Stryd Fawr.

Dywedodd Mr Peattie:

Rydyn ni’n hynod falch o gefnogi Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn y Cyngor Sir ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Cyngor a phartneriaid eraill wrth i’r mentrau gael eu llunio, gan ddenu buddsoddiad i’r ynys a chreu cyfleoedd cyflogaeth. Fel cyflogwr mawr yng Ngogledd Cymru, rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi’r cymunedau cyfagos, y mae eu cefnogaeth mor hanfodol i’n gwaith ni.

Ar ôl siom y gymuned wedi’r newyddion am ddyfodol Wylfa Newydd, a ffatri Rehau yn Amlwch, ac o ystyried yr effeithiau disgwyliedig o ganlyniad i ddatgomisiynu Gorsaf Bŵer Wylfa, mae’r angen am greu Cynllun Adfywio Economaidd cadarn ar gyfer Gogledd Ynys Môn yn flaenoriaeth ar gyfer yr ynys. Datblygwyd y Cynllun i adnabod cryfderau, gwendidau a chyfleoedd lleol, ac i nodi blaenoriaethau, anghenion a dyheadau Gogledd Ynys Môn.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn Llinos Medi:

Fel Awdurdod, rydyn ni wedi gweithio gyda’r cymunedau lleol a’r rhanddeiliaid i ymateb i’r heriau sy’n wynebu Gogledd Ynys Môn ac i ganolbwyntio ein hymdrechion ar gefnogi’r rhai sydd wedi’u heffeithio. Lluniwyd y cynllun gan drigolion a busnesau lleol fel rhan o broses ymgynghori fawr.

Mae croeso i’r cyllid sylweddol sydd wedi’i roi gan yr ADN a bydd yn galluogi i ni wneud cynnydd gyda rhai o’r blaenoriaethau allweddol sydd wedi cael eu datgan yn lleol er mwyn helpu i adfywio Gogledd Ynys Môn. Cynhaliwyd y digwyddiad deuddydd i randdeiliaid ychydig filltiroedd o safle Wylfa’r ADN, hen orsaf bŵer a roddodd y gorau i gynhyrchu trydan bedair blynedd yn ôl ac sydd bellach wrthi’n cael gwared yn raddol ar ei gweddillion tanwydd cyn symud i’r cam datgomisiynu llawn.

Ychwanegodd Mr Peattie:

Does dim posib meddwl am leoliad mwy addas i gynnal ein digwyddiad nag yn y Ganolfan Beirianneg fodern yma. Drws nesaf mae’r Ganolfan Ynni newydd, sy’n gartref i rai o’r cyfleusterau hyfforddi egni carbon isel gorau yn unrhyw le yn y DU. Gyda’i gilydd, maen nhw’n darparu hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol mewn ynni adnewyddadwy a sectorau technegol eraill.

Roedden ni’n hynod falch o allu cefnogi ei datblygiad dros nifer o flynyddoedd gyda bron i £4 miliwn o gyllid.

Ychwanegodd bod Wylfa yn awr yn agos at gwblhau ei rhaglen o gael gwared ar danwydd, a ddechreuodd ar ôl i gynhyrchu trydan ddod i ben yno yn 2015 a bydd yn cael gwared ar 99% o’r peryglon ymbelydrol o’r safle. Byddai’r datgomisiynu’n parhau am flynyddoedd i ddod, a byddai angen sgiliau, nwyddau a gwasanaethau.

Ymhlith yr ymwelwyr roedd cynrychiolwyr o gymunedau ar 17 o safleoedd yr ADN, undebau llafur, rheoleiddwyr a grwpiau ymgyrchu. Roedd themâu cyflwyniadau’r diwrnod cyntaf yn cynnwys cynnydd gyda glanhau gwaddol dyddiau cynharaf y diwydiant niwclear yn y DU a chwilio yn y DU am gymuned a fyddai’n fodlon derbyn safle gwaredu daearegol ar gyfer gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd.

Canolbwyntiodd yr 2il ddiwrnod ar y sgiliau gofynnol i sicrhau bod posib cwblhau’r gwaith glanhau yn ystod yr amserlen ddisgwyliedig o fwy na 100 mlynedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 July 2019