Uchelgais Sero Net gam yn nes yng Nghymru
Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi £20m yng Nghlwstwr Diwydiannol De Cymru yn dod â diwydiant, academyddion a’r sector cyhoeddus at ei gilydd gyda’r targed o gyflawni Net Sero.
Heddiw (dydd Llun 28 Mawrth) agorodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddigwyddiad i arddangos gwaith Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) a chroesawu creu sefydliad aelodaeth newydd, sef Diwydiant Sero Net Cymru a fydd yn rhedeg SWIC.
Mae SWIC wedi cael dros £20 miliwn gan Lywodraeth y DU.
Dim ond un rhanbarth arall yn y DU sy’n gyfrifol am ollwng mwy o allyriadau diwydiannol na rhanbarth De Cymru, gan ryddhau’r hyn sy’n cyfateb i 16 miliwn tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn ar draws diwydiant a’r sector cynhyrchu ynni. Yn 2019, daeth y DU yn un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i ddeddfu y bydd yn cyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2050.
Os yw’r DU i gyrraedd y targed hwn, mae arnom angen ffyrdd newydd o wresogi cartrefi, pweru busnesau a diwydiant a chael tanwydd i drafnidiaeth. Mae hyn yn gofyn am leihau allyriadau cymaint ag y bo modd gan ddefnyddio dulliau fel effeithlonrwydd ynni, newid tanwydd, dal, storio a defnyddio carbon, yn ogystal â gwrthbwyso carbon deuocsid drwy ddulliau eraill, megis technolegau allyriadau negyddol.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’n wych gweld y prosiect hwn yn symud ymlaen gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, y diwydiant a’r byd academaidd yn dod at ei gilydd i helpu i gyflawni ein huchelgeisiau Sero Net.
Mae Llywodraeth y DU wedi buddsoddi £21.5 miliwn yn y prosiect hwn, sy’n arwydd o ba mor hanfodol yw’r gwaith hwn. Mae her enfawr o’n blaenau ac mae’r cynllun i ddatgarboneiddio llu o ddiwydiannau trwm ar draws de Cymru yn eithriadol o uchelgeisiol.
Ond rwy’n hyderus y bydd ein targedau Sero Net yn cael eu cyflawni, yn rhannol drwy sefydlu prosiectau fel Clwstwr Diwydiannol De Cymru sy’n defnyddio arloesedd a chryfder cyfunol busnes a diwydiant.
Dywedodd Dr Chris Williams, Pennaeth Datgarboneiddio Diwydiannol Diwydiant Cymru:
Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn ffrwyth llafur blynyddoedd lawer o waith caled gan lawer o gwmnïau, Llywodraethau, Prifysgolion a phobl o’r un anian a sylweddolodd y byddai’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i fapio’r hyn sydd ei angen gan bob sector yng Nghymru er mwyn sicrhau economi adferol a sero net yng Nghymru.
Dydy’r hyn rydyn ni’n gweithio arno ddim yn ymwneud â newid cyfansoddiad diwydiannol Cymru, mae’n ymwneud â’i arloesi, bod ar flaen y gad o ran datgarboneiddio er mwyn sicrhau ein bod yn cadw’r diwydiannau a’r swyddi hyn yng Nghymru. Mae hefyd yn ymwneud ag archwilio cyfleoedd i greu diwydiannau newydd cyffrous yng Nghymru, yn ogystal ag adfywio a chynnal y rhai presennol.
Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol hir a chyfoethog, sy’n arwain y ffordd yn y chwyldro gweithgynhyrchu a pheirianneg. Nawr rydyn ni’n bwriadu arwain y chwyldro gwyrdd ac mae creu Diwydiant Sero Net Cymru yn sicr yn mynd i’n helpu i gyflawni hynny mewn ffordd fwy cysylltiedig a chydlynol.
I gael rhagor o wybodaeth am Glwstwr Diwydiannol De Cymru ewch yma.