Stori newyddion

Canolfan Newydd Cadetiaid ar y Cyd Cil-y-coed

Mae’r drysau i Ganolfan Cadetiaid ar y Cyd newydd gwerth £1.2 miliwn wedi agor i bobl ifanc yng Nghil-y-coed fel rhan o ymdrech genedlaethol i foderneiddio ystad y lluoedd wrth gefn a’r cadetiaid.

Group of army cadets and adult volunteers in front of the new Joint Cadet Centre. Copyright: RFCA for Wales.

Mae prosiect y Ganolfan Cadetiaid ar y Cyd (JCC) newydd yn rhan o’r Rhaglen Optimeiddio Ystadau Wrth Gefn (REOP) sy’n ceisio moderneiddio a chreu canolfannau effeithlon er budd y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid, gan fodloni gofynion defnyddwyr heddiw. Dyma’r datblygiad diweddaraf yng Nghymru yn y rhaglen waith hon.

Fe’i hadeiladwyd ar safle hen adeilad Cadetiaid y Fyddin yn Mill Lane, Cil-y-coed. Cafodd yr hen adeilad ei chwalu i wneud lle i’r adeilad pwrpasol newydd sbon sy’n cael ei rannu gan gadetiaid y fyddin a’r awyr yn y dref.

Yn ystod y gwaith adeiladu, symudodd y cadetiaid o Lu Cadetiaid Byddin Cil-y-coed allan a chawsant groeso dafliad carreg i ffwrdd yn Jubilee Way gan gadetiaid awyr Sgwadron 2012 (Cil-y-coed) gan ddefnyddio’r adeilad hwn dros gyfnod y gwaith. 

Dywedodd Phil Young, Pennaeth Ystadau Cymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru:

Mae’r Ganolfan Cadetiaid ar y Cyd newydd hon yng Nghil-y-coed yn rhan o’r gwaith cynllunio strategol i foderneiddio ystad y cadetiaid ac mae’n fuddsoddiad o tua £1.2 miliwn o bunnoedd.

Ein nod yw sicrhau bod yr adeiladau iawn gennym yn y llefydd iawn i ddiwallu anghenion cadetiaid yn y dyfodol.

Ac rydyn ni’n gobeithio bydd y cyfleuster newydd sbon yn ysbrydoli darpar gadetiaid y dyfodol o’r ardal gyfagos i gofrestru i fod yn aelodau gwerthfawr o Luoedd y Cadetiaid.

Dywedodd yr Hyfforddwr Sarjant Staff, Kerris Drew o AFC Cil-y-coed:

Mae’r adeilad modern newydd hwn yn grêt – mae’n fwy o lawer na’r hen un ac mae ganddo gyfleusterau gwell. Mae ganddo fwy o ystafelloedd dosbarth sy’n golygu ein bod yn gallu cynnal hyfforddiant mwy effeithlon ac wedi’i dargedu gyda’r cadetiaid. Mae’n cynnwys storfa fawr, swyddfeydd a system awyru hyd yn oed. Mae ardal paredio tu allan ar gyfer ymarferion driliau a gardd sydd â blychau bywyd gwyllt.

Dywedodd Uwch Sarjant Cwmni’r Cadetiaid, Deiniol Hughes, sydd wedi bod yn gadet yng Nghil-y-coed ers chwe blynedd:

Mae’n ffantastig – rydyn ni nawr yn gallu dweud ein bod yn cwrdd yn yr adeilad wrth ymyl yr ysgol yn hytrach na’r “cwt” wrth ymyl yr ysgol!

Mae’r cadetiaid yn falch iawn o allu paredio yn yr adeilad newydd hwn – mae’n edrych yn llawer mwy proffesiynol, ac rwy’n siŵr y bydd hynny’n annog rhagor o bobl ifanc i ymuno â chadetiaid ac yn annog rhieni i anfon eu plant yma.

Mae hefyd yn cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ar y cyd â’r cadetiaid awyr, rydyn ni’n rhannu’r adeilad â nhw.

Dywedodd Rothery Harries, Hyfforddwr Sifil gyda Sgwadron 2012 (Cil-y-coed):

Mae llawer mwy o le yn yr adeilad newydd ac mae ganddo gownter arlwyo modern hyfryd ac mae’r system wresogi ac awyru yn well o lawer. Mae’r neuadd paredio yn fwy wrth gymharu â’n hen adeilad.

Roedd y Cadetiaid wedi symud i’r Ganolfan newydd yng Nghil-y-coed ym mis Gorffennaf.

Roedd Cymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth ag Avison Young a BECT Building Contractors Ltd i godi’r adeilad modiwlaidd un llawr modern hwn.

Bydd y ganolfan newydd yn gwella’r profiad o’r cadetiaid i bobl ifanc yn y gymuned ac i genedlaethau’r dyfodol o gadetiaid a gwirfoddolwyr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 August 2024