Stori newyddion

Ffurflen a chanllaw newydd i’ch helpu i chwilio drwy gofrestrau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) wedi diweddaru ei pholisi ar sut i gynnal chwiliad ar ei chofrestrau

Mae OPG wedi cyhoeddi nodyn ymarfer newydd i fod yn gliriach ar sut rydym yn trin ac yn rhannu gwybodaeth a ddelir ar ein cofrestrau atwrneiaeth arhosol, atwrneiaeth barhaus a dirprwyon a benodwyd gan y llys.

Mae hefyd yn egluro sut rydym yn mynd ati i gadw cofrestrau fel y nodir yn Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Rheoliadau Atwrneiaeth Arhosol, Atwrneiaeth Barhaus a Gwarcheidwad Cyhoeddus 2007.

Gall unrhyw un ofyn i gael cynnal chwiliad o gofrestrau OPG drwy lenwi ffurflen OPG100. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim.

Mae ffurflen chwilio OPG100 nawr yn eich galluogi i ofyn am wybodaeth ychwanegol ar yr un pryd â gofyn am gael cynnal chwiliad o gofrestrau OPG, gan osgoi’r angen i wneud dau gais ar wahân. Rhaid hefyd yn awr ddarparu cyfeiriad a dyddiad geni’r rhoddwr fel mesur diogelwch ychwanegol. Gobeithiwn y bydd hyn yn cyflymu’r broses chwilio ac yn atal unrhyw oedi.

Bydd OPG yn rhannu gwybodaeth ychwanegol gyda chi os caiff y cais ei gyfiawnhau a bod ganddo sail gyfreithiol. Er enghraifft, rydym yn blaenoriaethu ceisiadau sy’n cefnogi diogelu oedolion bregus a dyletswyddau statudol awdurdodau cyhoeddus eraill, megis gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 February 2019